Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwirfoddolwyr hanes yn cynnal digwyddiad i ddenu cydweithwyr newydd i'r castell

Mae gwirfoddolwyr sy'n helpu i ofalu am un o gestyll gorau Cymru a'i arddangos yn falch i ymwelwyr yn chwilio am ragor o bobl i'w helpu.

Oystermouth Castle

Oystermouth Castle

Cynhelir diwrnod agored ddydd Iau 16 Mehefin pan fydd unrhyw â diddordeb mewn ymuno â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth yn gallu cwrdd â gwirfoddolwyr presennol. Gallant gael rhagor o wybodaeth am ddod yn rhan o'r grŵp, pa rolau sydd ar gael a sut gallant helpu.

Meddai Marie Hughes o'r grŵp Cyfeillion, "P'un a ydych newydd ymddeol, yn fyfyriwr sy'n chwilio am brofiad gwaith neu'n rhywun ag ychydig oriau i sbario, mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli i bobl gymryd rhan ynddynt.

"Mae dod yn un o'r cyfeillion yn llawer o hwyl ac yn rhoi boddhad. Mae'n rhoi cyfle i bobl ddysgu am hanes y castell a chwrdd ag ymwelwyr o bedwar ban byd, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd os dymunant.

"Ers i'r castell fod ar agor i'r cyhoedd ddiwethaf mae nifer o'n gwirfoddolwyr hŷn wedi gorfod ymddeol ac mae rhai o'r rhai ieuengaf yn gweithio nawr a does ganddyn nhw ddim amser sbâr, felly byddem yn croesawu recriwtiaid newydd."

Bydd dwy sesiwn galw heibio yn ystod y diwrnod agored - o 10am tan ganol dydd ac o 3pm i 4pm.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Mae Cyfeillion Castell Ystumllwynarth yn gwneud gwaith gwych wrth gynnal y castell o ddydd i ddydd, gan groesawu ymwelwyr a rhoi gwybodaeth iddynt. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt.

"Mae'n brofiad sy'n rhoi boddhad felly os ydych yn mwynhau cwrdd â phobl newydd ac os oes gennych amser rhydd, yna byddent wrth eu bodd i glywed gennych."

I'r rheini na allant ddod i'r diwrnod agored, mae gwybodaeth a manylion cyswllt ar gael ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/gwirfoddoliynystumllwynarth

Llun: Castell Ystumllwynarth

Close Dewis iaith