Toglo gwelededd dewislen symudol

Theatr Awyr Agored yn dychwelyd i Abertawe

Mae Peter Pan a Romeo and Juliet yn rhan o raglen Theatr Awyr Castell Ystumllwynarth ar gyfer 2024.

Outdoor Theatre

Outdoor Theatre

Cyngor Abertawe sy'n rheoli'r castell, gyda chymorth gwirfoddolwyr ac mae'n edrych ymlaen at groesawu Tinkerbell a'r bechgyn coll pan gaiff drama Peter Pan ei pherfformio brynhawn dydd Mercher 7 Awst, am 2pm.

Drannoeth, am 7pm, llwyfennir drama ramantus Romeo and Juliet i selogion Shakespeare. Trefnir y digwyddiadau gan y Cyngor.

Bydd pawb sy'n prynu tocynnau ar gyfer Theatr Awyr Agored yn cael tocyn hanner pris i fynd i mewn i'r castell o 8 i 16 Awst.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae Theatr Awyr Agored bob amser yn boblogaidd iawn yng Nghastell Ystumllwynarth. Hoffwn ddiolch i noddwyr y digwyddiad, holidaycottages.co.uk."

Meddai Serena Pearce, rheolwr cymunedau rhanbarthol y cwmni, "Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r cymunedau lleol rydym yn gweithio gyda nhw a lle'r ydym yn cynnal bythynnod gwyliau. Mae ein tîm yn ein swyddfa leol yn y Mwmbwls yn edrych ymlaen at weld llwyddiant y digwyddiadau Theatr Awyr Agored."

Mae Castell Ystumllwynarth ar agor o ddydd Mercher i ddydd Llun, o 11am i 5pm (mynediad olaf am 4.30pm)

Anogir y sawl sy'n mynd i berfformiadau Theatr Awyr Agored i bacio picnic ar gyfer y sioeau neu ddefnyddio siopau, bwytai, bariau, caffis a pharlyrau hufen iâ lleol.

Rhagor   

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Awst 2024