Toglo gwelededd dewislen symudol

Derwen yn nodi cyfraniad ffoaduriaid Iddewig

Mae derwen wedi'i phlannu ger Neuadd y Ddinas Abertawe i nodi 80 o flynyddoedd ers sefydlu Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig.

Oak tree planted for Association of Jewish Refugees

Mae'r elusen genedlaethol, sy'n cefnogi ffoaduriaid a goroeswyr yr Holocost sy'n byw ym Mhrydain Fawr, yn plannu 80 o goed derw brodorol mewn gwahanol safleoedd ar draws y wlad.

Roedd Cyngor Abertawe'n awyddus i gefnogi'r fenter i gydnabod y cyfraniad enfawr y mae ffoaduriaid Iddewig wedi'i wneud i'r ddinas a'r DU.

Ymunodd Norma Glass MBE, aelod blaenllaw o'r gymuned Iddewig yng Nghymru, a chynrychiolwyr o'r Ddinas Noddfa ag Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, a'r Arglwydd Faer Mary Jones.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'n fraint bod Abertawe yn un o'r 80 lleoliad a ddewiswyd ar gyfer y fenter wych hon gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig.

"Rydym yn falch bod Abertawe wedi croesawu ffoaduriaid ar gyfnod o argyfwng ac yn dathlu'r cyfraniad y maent wedi'i wneud i'r ddinas dros gymaint o flynyddoedd.

"Yn yr un modd ni ddylem fyth anghofio nad oedd miliynau mor ffodus a'u bod wedi marw yng ngwersylloedd difa'r Natsïaid yn ystod yr Holocost."

Meddai Ms Glass, "Ar ran cymuned Iddewig Abertawe rydym yn hynod ddiolchgar a gwerthfawrogol o'r arwydd ystyriol hwn gan Gyngor Abertawe i nodi'r gofeb hon o 80 mlynedd trwy blannu coeden.

"Rydym yn diolch i bawb sydd wedi ymwneud â threfnu'r digwyddiad hwn ac mae'n anrhydedd. Shalom."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022