Gweithgareddau cost isel ac am ddim yn Abertawe yr hanner tymor hwn
Gall preswylwyr a'r rheini sy'n ymweld ag Abertawe wneud yn fawr o'r ddinas yn ystod gwyliau hanner tymor ysgolion yr wythnos nesaf.
Gyda'r argyfwng costau byw yn parhau, mae Cyngor Abertawe wrthi'n cynnal llu o weithgareddau a digwyddiadau cost isel ac am ddim. Bydd llawer ohonynt yn galluogi teuluoedd i fwynhau canol y ddinas.
Mae'r gwyliau hanner tymor rhwng 28 Hydref a 5 Tachwedd.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Gyda'r hanner tymor ar y gorwel, does dim amser gwell i ddarganfod pa ddigwyddiadau sydd ar gynnig ym Mae Abertawe."
Mae digwyddiad blynyddol am ddim Ysbrydion yn y Ddinas yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd.
Disgwylir i'r digwyddiad yng nghanol y ddinas gael ei gynnal ar 28 Hydref rhwng 11am a 4pm. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn lleoliad newydd eleni, sef St David's Place, ger hen siop Iceland.
Mae digwyddiadau Calan Gaeaf hefyd wedi'u trefnu ar gyfer lleoliad hanesyddol Castell Ystumllwynarth.
Ar 28 Hydref cynhelir y llwybr Calan Gaeaf sy'n addas i deuluoedd, sy'n cynnwys gwrachod, dewiniaid ac Arglwyddes Wen Ystumllwynarth. Ar 31 Hydref bydd y castell yn cynnal ei Noson Fwganllyd a fydd yn llawn syrpreisys arswydus!
Mae'r atyniadau dan do a reolir gan y cyngor yn cynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian, Canolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe - a gallwch gael mynediad am ddim i'r cyfan.
Mae'r hanner tymor hefyd yn amser da i ymweld â rhwydwaith o lyfrgelloedd y cyngor - ynghyd â thraethau a pharciau lleol gwych Abertawe.
Bydd arddangosfa tân gwyllt flynyddol fwyaf Abertawe'n dychwelyd i faes chwaraeon San Helen ar 5 Tachwedd. Mae tocynnau'n dechrau o £2 ac maent yn gwerthu'n dda.
Llun: Calan Gaeaf yng Nghastell Ystumllwynarth.