Toglo gwelededd dewislen symudol

£1.25m i'w fuddsoddi ym maes chwaraeon 3G ysgol

Neilltuwyd dros £1m i dalu am faes 3G pob tywydd maint llawn newydd yn Ysgol yr Olchfa.

Artificial sport pitch - generic (Canva)

Artificial sport pitch - generic (Canva)

Mae diweddariad ar y prosiect a fydd yn trawsnewid cyfleusterau chwaraeon ar gyfer disgyblion a'r gymuned ehangach wedi cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Abertawe.  

Mae'r cyngor a llywodraethwyr yr ysgol wedi nodi darn o dir nad oedd ei angen a chytunwyd y byddai'n cael ei werthu i dalu am y maes 3G newydd.

Mae'r tir bellach yn y broses o gael ei brynu gan ddatblygwr ac, yn amodol ar gwblhau'r gwerthiant tir yn llwyddiannus, gall gwaith ddechrau ar osod y cyfleusterau chwaraeon.

Mae aelodau'r Cabinet wedi neilltuo £1.25m i dalu am yr holl gostau gan gynnwys ffensys newydd ar hyd y terfyn.

Bydd gan yr ysgol ddau gae pêl-droed a rygbi traddodiadol o hyd, yn ogystal â'r cae 3G newydd.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, Robert Smith, "Rwy'n awyddus i weld gwaith yn dechrau cyn gynted â phosib i ddarparu'r cyfleuster chwaraeon mawr ei angen hwn.

Bydd y maes 3G yn sicrhau y gall timau chwaraeon yr ysgol chwarae a hyfforddi trwy gydol y flwyddyn a bydd hefyd yn darparu ased gwych ar gyfer y gymuned ehangach pan na fydd yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol."