Cefnogaeth athletwr Olympaidd ar gyfer cynllun BMX a sglefrfyrddio
Mae athletwr Olympaidd o Abertawe'n cefnogi cynlluniau ar gyfer cenhedlaeth newydd o gyfleusterau sglefrfyrddio a BMX o'r radd flaenaf yn y ddinas.
Mae Cyngor Abertawe wedi neilltuo dros £1m ar gyfer cyfleusterau newydd a gwell i helpu i ddarparu ar gyfer poblogrwydd cynyddol y chwaraeon.
Mae James Jones, a oedd yn rhan o dîm BMX dull rhydd Prydain Fawr yn ystod Gemau Olympaidd 2020 yn Tokyo, wedi croesawu'r cynllun.
Meddai'r athletwr 29 oed, sy'n dod yn wreiddiol o ardal Sandfields yn Abertawe, "Mae BMX a sglefrfyrddio eisoes yn boblogaidd iawn, ond maent yn sicr o ddod yn fwy poblogaidd yn Abertawe ac mewn ardaloedd eraill dros y blynyddoedd nesaf, gan fod y ddwy gamp yn rhan o'r Gemau Olympaidd erbyn hyn.
"Mae'n wych gweld bod Cyngor Abertawe wedi cydnabod hyn a'i fod yn neilltuo tipyn o gyllid ar gyfer cyfleusterau gwell yn yr ardal.
"Pan roeddwn i'n ifanc, roeddwn i'n beicio BMX yn aml ar y ramp sglefrfyrddio ym Mharc Victoria ond roeddwn i hefyd yn mynd i'r Elba yn Nhre-gŵyr yn weddol aml.
"Roedd fel arfer yn cymryd hanner awr i gyrraedd yno, ond os bydd mwy o gyfleusterau gwell ar gael, bydd hynny'n lleihau amserau teithio i bobl ifanc ac yn denu mwy o bobl i roi cynnig ar BMX, sglefrfyrddio a llafnrolio."
Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi hysbysebu'i uchelgais yn ddiweddar i recriwtio rhagor o arbenigedd i'w helpu i gyflwyno ei weledigaeth sglefrio a beicio BMX ar wefan gaffael GwerthwchiGymru.
Meddai James, "Mae'n syniad gwych. Mae'n bwysig cael rhywun sy'n gyfarwydd â pharciau sglefrio ac sydd wedi'u defnyddio o'r blaen gan y bydd ganddyn nhw well dealltwriaeth o beth sy'n gweithio a beth mae pobl ifanc am ei gael. Mae angen hyn."
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn cydnabod poblogrwydd y campau hyn a phwysigrwydd cyfleusterau BMX a sglefrfyrddio o'r radd flaenaf i'n pobl ifanc.
"Dyna pam rydym wedi neilltuo cyllid ac yn bwriadu cynyddu'r arbenigedd allanol sydd ar gael, yn lleol a thu hwnt, i'n helpu i ddarparu'r genhedlaeth nesaf o gyfleusterau, gan helpu i wella a chefnogi ymhellach y rhwydwaith o gyfleusterau BMX a sglefrfyrddio sydd gennym eisoes.
"Gwneir unrhyw gynigion ar gyfer cyfleusterau newydd neu well yn ôl barn y gymuned BMX a sglefrfyrddio leol."
Gellir dod o hyd i hysbyseb recriwtio'r cyngor ar gyfer ymgynghorwyr arbenigol yma: https://bit.ly/3NLoRpf