Toglo gwelededd dewislen symudol

Tocynnau ar gyfer Jersey Boys a Royal Blood bellach ar werth

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer Jersey Boys, Royal Blood a Kevin Bridges yn Arena Abertawe.

Jersey Boys

Jersey Boys

Dyma'r sioeau diweddaraf i'w cyhoeddi ar gyfer y lleoliad a fydd yn agor yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Y ddeuawd roc Royal Blood fydd yr act gyntaf i berfformio yn Arena Abertawe nos Fawrth 8 Mawrth 2022 fel rhan o dymor lansio'r lleoliad.

Bydd y digrifwr Kevin Bridges yn perfformio nos Sadwrn 15 Hydref, 2022, a chynhelir y sioe gerdd o'r West End, Jersey Boys, o ddydd Mawrth 29 Tachwedd i ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr 2022.

Mae'r Arena yn rhan o ardal cam un Bae Copr sy'n werth £135 miliwn sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe gyda'r rheolwr datblygu RivingtonHark yn cynghori arni.

Gyda Buckingham Group Contracting Ltd yn arwain y gwaith adeiladu, mae cam un Bae Copr hefyd yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, y bont newydd dros Oystermouth Road, mannau parcio newydd, fflatiau newydd a lleoedd newydd ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch.

Ambassador Theatre Group (ATG) fydd yn rhedeg yr arena a ariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn.

Ewch i www.swansea-arena.co.uk i brynu tocynnau ar gyfer y sioeau sydd wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn fel rhan o raglen yr arena ar gyfer 2022 sy'n tyfu'n gyson.

Close Dewis iaith