Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor Abertawe yw'r cyntaf yn y DU i dderbyn cydnabyddiaeth am safon ecoleg newydd

​​​​​​​Cyngor Abertawe yw'r cyngor cyntaf yn y DU i dderbyn cydnabyddiaeth yn erbyn y Safon Un Blaned am y gwaith y mae'n ei wneud i leihau ei ôl troed ecolegol.

One Planet Bronze

One Planet Bronze

Yn ogystal â datgarboneiddio, mae hyn yn cynnwys adeiladau, teithio, defnydd tir a gwastraff yn ogystal â bioamrywiaeth a'r effaith ar adnoddau naturiol.

Mae'r Safon Un Blaned hefyd yn darparu fframwaith er mwyn i sefydliadau greu map ffordd tuag at ddod yn garbon sero net.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y cyngor, "Mae hyn yn dangos ein bod yn cymryd ein gwaith i helpu adferiad natur a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd o ddifrif. Hoffwn ddiolch i'r holl staff a oedd yn rhan o'r asesiad."

Mae'r cyngor wedi datgan argyfwng natur a hinsawdd. Mae'n gweithio i amddiffyn bioamrywiaeth a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Gwnaeth aseswr y Safon Un Blaned ganmol y cyngor am y ffordd y mae wedi rhoi llywodraethu ar waith ar draws y cyngor, ac am y ffordd y mae wedi gwneud yr ymdrech i helpu i leihau ôl troed y cyngor yn 'fusnes i bawb'.

Meddai David Thorpe, datblygwr y safon a chyfarwyddwr sefydlu CIC y Ganolfan Un Blaned, "Mae Un Blaned yn helpu sefydliadau o bob math i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth drwy addasu effeithiau cyflawn eu gweithgareddau."

Rhagor: https://oneplanetstandard.org/cy/.

 

 

 

 

Close Dewis iaith