Toglo gwelededd dewislen symudol

Awgrymiadau gan arbenigwyr mewn siop hunangyflogaeth dan yr unto

Bydd cyngor arbenigol wrth law yr wythnos nesaf i fusnesau newydd dan ddwy flwydd oed ac unrhyw un sy'n ystyried cychwyn ei fenter ei hun.

Sketty Hall

Sketty Hall

Bydd awgrymiadau ar arian grant a benthyciadau, cynllunio busnes a rhwydweithio ymysg y gefnogaeth a fydd ar gael mewn digwyddiad yn Ysgol Fusnes Neuadd Sgeti o 9.30am i 12.30pm ddydd Iau 21 Gorffennaf.

Mae'r siop hunangyflogaeth dan yr unto, a drefnir gan Gyngor Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe, yn cael ei hariannu drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.

Bydd cyfleoedd hyfforddiant a gweithdai ar gael hefyd, yn ogystal â chyngor ar ragolygon llif arian a chefnogaeth ar gyfer mentrau cymdeithasol.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn gwneud llawer iawn o waith fel cyngor i gefnogi'n busnesau ac annog arloesedd a menter.

"Mae gan Abertawe gymaint o dalent busnes, ond mae angen cyngor arbenigol yn aml ar fusnesau ifanc mewn meysydd megis ariannu a rhwydweithio fel y gallant sefydlu eu hunain yn llwyddiannus ac yna ffynnu am flynyddoedd i ddod.

"Bydd y digwyddiad hwn a drefnwyd mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe yn helpu i ddiwallu'r anghenion hyn a hefyd yn cyfeirio busnesau sy'n dod iddo at ffynonellau arweiniad a chefnogaeth ychwanegol."

Mae'r sefydliadau sy'n mynd i'r digwyddiad i ddarparu awgrymiadau'n cynnwys Cyngor Abertawe, Coleg Gŵyr, Prifysgol Abertawe, Busnes Cymru, Cyflymu Cymru i Fusnesau, Urban Foundry, Focus Features, Syniadau Mawr Cymru, Cowork Local, Cwmpas a Banc Datblygu Cymru.

Gellir mynd i'r digwyddiad am ddim, a does dim angen cadw lle. E-bostiwch businessswansea@abertawe.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

 

Close Dewis iaith