Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae ein siop dan yr unto nesaf yn mynd i fod yn brysur

Disgwylir i bron 40 o sefydliadau, grwpiau a gwasanaethau sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth ar draws amrywiaeth o feysydd fel iechyd, lles, cyflogadwyedd, tlodi a thai fod yn y Siop Gwybodaeth Dan yr Unto nesaf yng Nghwtsh Cydweithio newydd Abertawe.

Collaboration Station

collaboration station launch day

Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a nifer o sefydliadau eraill i hyrwyddo gweithgareddau a gwasanaethau maent yn eu cynnal ar gyfer amrywiaeth eang o gymunedau.

Ar ddydd Llun cyntaf y mis, mae'n gartref i'r Siop Gwybodaeth Dan yr Unto ac mae 37 o stondinau wedi cael eu harchebu gan bartneriaid ar gyfer dydd Llun 6 Tachwedd.

Mae croeso i bobl ddod unrhyw bryd rhwng 10am ac 1pm felly does dim angen apwyntiad.

Close Dewis iaith