Abertawe'n cynnig un o'r troeon hyfrytaf ar y traeth yn y DU yn ystod y gaeaf
Mae darn nodedig o arfordir Abertawe wedi denu sylw am gynnig un o'r troeon gorau ar y traeth yn y DU.


Yn ôl Chris Haslam, prif ohebydd teithio The Sunday Times, mae Oxwich a Bae y Tri Chlogwyn yn cynnig taith gerdded wefreiddiol am chwe milltir.
Dywedodd y newyddiadurwr arobryn ei bod yn dilyn cromlin y bae i fawredd tebyg i gadeirlan Bae y Tri Chlogwyn.
Meddai Chris: "Ar ôl i chi syllu yn y pyllau trai ar waelod y Great Tor, gallwch grwydro i gilfach dywodlyd helaeth traeth Bae Pobbles."
Mae'n argymell mynd i goed hardd a chysgodol Nicholaston ac ymweld â The Oxwich Bay Hotel, lle cynigir te prynhawn ac ystafelloedd gwych sy'n rhoi golwg dros y môr.
Roedd hoff droeon eraill Chris ar draethau'n cynnwys: Hell's Mouth, Cernyw; Dunwich, Suffolk; Pen Blakeney, Norfolk; Bae Robin Hood, gogledd Swydd Efrog; Craster a Howick, Northumberland; St Cyrus, Aberdeenshire.
Mae ardal Abertawe'n adnabyddus am ei thraethau arobryn, gan gynnwys Bae Rhosili a lleoliad eiconig Pen Pyrod.
Mae gan yr ardal oddeutu 20 o draethau dros fwy na 30 milltir o forlin.
Mae gan Fae Langland a Llangynydd rai o'r tonnau gorau i syrffio arnynt.
Mae gweithgareddau ar gael fel dringo creigiau ym Mae y Tri Chlogwyn a chaiacio ym Mae Oxwich.
Mae cyfleoedd anhygoel i weld bywyd gwyllt ar draethau lleol ac, os ydych am ganfod rhywbeth i'r teulu, mae traeth Bae Rotherslade a Bae Caswell ymysg y mwyaf tywodlyd.
Mae'r mannau cerdded campus yn ardal Abertawe yn ystod y gaeaf yn cynnwys traeth Bae Abertawe, traeth Bae Broughton a thraeth Bae Porth Einon. Dewch i roi cynnig arnynt!
Wyddech chi? Mae Tirwedd Genedlaethol Gŵyr wedi cael ei chydnabod yn swyddogol fel Cymuned Awyr Dywyll Ryngwladol.
Mae gan wefan Croeso Bae Abertawe arweiniad gwych i draethau Bae Abertawe.
Addaswyd diwethaf ar 13 Chwefror 2025