Bwrdd yn ceisio barn ar les yn Abertawe
Gofynnir i breswylwyr o bob oed yn ar draws Abertawe am eu barn ar ansawdd bywyd a lles yn y ddinas.


Yr hydref diwethaf, gofynnodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i bobl gymryd rhan mewn arolwg a fydd yn helpu i lunio ei flaenoriaethau a'r gwasanaethau hanfodol y mae ei bartneriaid yn eu darparu.
Mae bellach wedi cyhoeddi Asesiad Lles Lleol drafft fel rhan o'r broses o bennu amcanion ac mae'n ceisio barn pobl unwaith eto fel ei fod yn adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf iddynt.
I weld y drafft ac i ddweud eich dweud, ewch i www.abertawe.gov.uk/asesiadbgc2022
Cynhelir yr ymgynghoriad tan ddydd Gwener 18 Mawrth.