Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae angen eich barn am waith i wella lles

Gofynnir i bobl ar draws Abertawe sut maent yn meddwl y gall sefydliadau weithio gyda'i gilydd orau i wella lles y ddinas yn y pum mlynedd nesaf.

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, sy'n cynnwys sefydliadau sy'n darparu llawer o'r gwasanaethau rheng flaen sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yn diweddaru ac yn gwella'i Gynllun Lles Lleol bob pum mlynedd.

Mae arolwg ar-lein newydd gael ei lansio sy'n rhoi cyfle i breswylwyr o bob oed ddylanwadu ar ei waith.

Mae'r Bwrdd am glywed oddi wrth gynifer o bobl â phosib a gall unrhyw breswyliwr gymryd rhan drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/dweudeichdweud  rhwng nawr a 13 Chwefror y flwyddyn nesaf.

Mae sesiynau galw heibio hefyd wedi'u trefnu yn Llyfrgell Ganolog Abertawe rhwng 11am a 2pm ddydd Mawrth 13 Rhagfyr ac yn Llyfrgell Clydach rhwng 11am ac 1pm ddydd Gwener 16 Rhagfyr. 

Mae'r bwrdd yn cynnwys amrywiaeth o bartneriaid gwasanaethau cyhoeddus sy'n cynnwys Cyngor Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac eraill.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe, Andrea Lewis, sy'n gadeirydd y bwrdd, "Drwy gael partneriaid i weithio gyda'i gilydd, rydym wedi gwneud camau mawr yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

"Ond gwyddwn y gallwn wneud mwy drwy wella'r ffordd rydym yn gweithio ymhellach, a dyna pam rwy'n annog pobl i gymryd ychydig funudau i lenwi'r arolwg a'n helpu i sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf y gorau y gallant fod."

Meddai Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Roger Thomas, sy'n ddirprwy gadeirydd y BGC, "Mae'r holl bartneriaid wedi elwa o weithio'n agos gyda'i gilydd ac maent yn ymrwymedig i wella'n cydweithio er budd pobl Abertawe.

"Mae pob un ohonom yn wirioneddol awyddus i glywed syniadau gan breswylwyr i'n cynorthwyo gyda hyn.