Cam mawr ymlaen i gynllun ar gyfer canol dinas Abertawe
Mae cynllun ar gyfer datblygiad mawr newydd yng nghanol dinas Abertawe a fydd yn helpu i roi hwb i nifer yr ymwelwyr a chefnogi masnachwyr wedi cymryd cam mawr ymlaen.
Mae caniatâd cynllunio wedi'i roi bellach ar gyfer adeilad hwb sector cyhoeddus ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant.
Bydd y datblygiad yn cynnwys arwynebedd llawr masnachol ar gyfer siopau a bwytai, a bydd y Cyngor, ynghyd ag ystod o bartneriaid sector cyhoeddus eraill, yn defnyddio'r swyddfeydd uwchben.
Byddai'r hwb sector cyhoeddus hefyd yn galluogi ailddatblygu safle'r Ganolfan Ddinesig ar lan y môr.
Mae Urban Splash yn parhau i weithio ar gynigion ar gyfer y safle hwnnw a bydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi adborth am y rhain unwaith y cânt eu cwblhau.
Byddai'r Cyngor ac Urban Splash yn datblygu'r hwb sector cyhoeddus arfaethedig, a byddai'r Cyngor yn parhau i fod yn berchen arno. Hwn fyddai cam cyntaf y broses o ailddatblygu'r safle'n gyffredinol dan arweiniad Urban Splash, sy'n parhau i weithio ar gynlluniau ar gyfer gweddill y safle.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd yr hwb sector cyhoeddus yn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr sy'n mynd i ganol y ddinas gan roi hwb i'n masnachwyr presennol a helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol.
"Un nodwedd yn unig yw hon o gynllun cyffredinol i ailddatblygu hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant, felly byddwn yn parhau i weithio gydag Urban Splash ar gynigion eraill ar gyfer y safle a gaiff eu cyhoeddi cyn gynted ag y byddant yn barod i'w cyflwyno ar gyfer adborth.
"Mae ein cynlluniau ar gyfer y datblygiad hwn yn rhan o raglen adfywio gwerth £1bn sy'n mynd rhagddi yn Abertawe a fydd o fudd i'n preswylwyr a'n busnesau. Mae hyn yn dangos pa mor ymrwymedig yr ydym i greu swyddi a chyfleusterau o'r ansawdd uchaf wrth i Abertawe gael ei thrawsnewid yn un o ddinasoedd gorau'r DU i fyw, gweithio, mwynhau, astudio ac ymweld â hi.
"Ochr yn ochr â'n partneriaid yn y sector preifat ac eraill, mae'r gwaith hwn yn dwyn ffrwyth.
"Rhagwelir mai economi Abertawe fydd y seithfed sy'n tyfu gyflymaf yn y DU y flwyddyn nesaf, sy'n dyst i'r holl bethau sydd wedi'u cyflawni hyd yn hyn a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol."
Disgwylir i'r gwaith adeiladu ar yr hwb sector cyhoeddus ddechrau yng nghanol 2025.