Canol y ddinas yn dod yn gyrchfan mwy croesawgar fyth
Bydd rheolau ymddygiad gwrthgymdeithasol newydd yn helpu canol dinas Abertawe i ddod yn lle mwy croesawgar i fyw ynddo, gweithio ynddo ac ymweld ag ef o'r mis hwn.
Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) wedi'i hyrwyddo ers mis Rhagfyr - a bydd yn dod i rym yn ffurfiol heddiw, 7 Mawrth.
Mae'n berthnasol i ymddygiad fel mynd i'r toiled yn gyhoeddus, cymryd cyffuriau a meddwdod - a gofynnir i bawb gydymffurfio.
Bydd pobl sy'n agored i niwed oherwydd amgylchiadau fel digartrefedd yn cael eu trin mewn modd sensitif; bydd gwasanaethau tai ac allgymorth yn cymryd rhan.
Mae'r GDMAC - sy'n rhan o ymagwedd ehangach a chydlynol Abertawe i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phobl sy'n ddiamddiffyn ar y stryd - wedi'i gynllunio i roi hwb i ganol y ddinas sydd eisoes yn cael ei wella.
Mae'r GDMAC - a gafodd gefnogaeth gyhoeddus eang mewn ymgynghoriad cyhoeddus - yn golygu y gellir mynd ag alcohol a chyffuriau fel anterthau cyfreithlon oddi ar bobl sy'n eu defnyddio ar y strydoedd cyn i'r sefyllfa ddod yn broblem. Gellir bellach gyflwyno hysbysiadau o gosb benodol ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rhegi gormodol ac ymosodedd. Gellid cymryd camau eraill i ymdrin â chodwyr twrw parhaus.
Ym mis Rhagfyr dechreuwyd cyfnod ymgysylltu ac addysg y GDMAC mewn ardaloedd sy'n cael eu patrolio gan geidwaid canol y ddinas yn ogystal â'r Marina. Bydd hefyd yn berthnasol i barc arfordirol Bae Copr a'r bont unwaith y byddant ar agor i'r cyhoedd. Os bydd yn llwyddiannus, gellid cyflwyno GDMACau mewn ardaloedd fel SA1, Traeth Abertawe a chanol Treforys.
Bob blwyddyn, gwneir cannoedd o gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol i geidwaid canol dinas Abertawe. Mae cofnodion yr heddlu'n dangos ei fod yn broblem allweddol sy'n effeithio ar ganol y ddinas.
Ers mis Rhagfyr, mae ceidwaid wedi bod yn esbonio i bobl sut bydd y GDMAC yn gweithio a sut y gallant gydymffurfio trwy beidio â chymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio gorfodi fel dewis olaf, gan roi rhybudd i bobl yn gyntaf a gofyn iddynt reoli eu hymddygiad. Gallai camau gweithredu dilynol gynnwys hysbysiadau o gosb benodol neu ddefnyddio pwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol eraill.
Mae ceidwaid yn parhau i weithio'n agos gyda'r heddlu a gwasanaethau allgymorth fel bod camau gweithredu wedi'u teilwra i'r unigolyn. Gallai hyn olygu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer y rheini y mae ei hangen arnynt.
Rhagor: www.abertawe.gov.uk/GDMACau