Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobr newydd ar gyfer gwaith adnewyddu Theatr y Palace

Mae prosiect llwyddiannus eich cyngor i drawsnewid adeilad hanesyddol Theatr y Palace wedi ennill gwobr arall.

PalaceAwardRecipients

PalaceAwardRecipients

Enillodd wobr adfywio a chadwraeth yn ystod Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) 2025.

CEW yw llais sector amgylchedd adeiledig Cymru, sy'n cynrychioli pob rhan o'r gadwn gyflenwi.

Mae anrhydedd diweddaraf adeilad y Palace yn dilyn ei lwyddiant wrth iddo ennill gwobr fasnachol/sector cyhoeddus yn ystod Gwobrau Meistr Adeiladwyr 2025 Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Cymru.

Roedd y prosiect, a arweiniwyd gan y cyngor, wedi trawsnewid adeilad rhestredig Gradd Dau Theatr y Palace yn fan gweithio modern gan oresgyn heriau dadfeilio sylweddol a heriau a oedd yn gysylltiedig â'r pandemig.

Roedd y gwaith gofalus i adfer yr adeilad wedi sicrhau eu bod wedi cadw nifer o'r nodweddion hanesyddol, a daeth y llwyddiant o ganlyniad i berthnasau cryf gyda'r rhanddeiliaid yn ystod y prosiect trawsnewidiol hwn sy'n rhan o waith i adfywio Abertawe gwerth £1bn.

Roedd beirniaid CEW yn cydnabod y dulliau arloesol a ddefnyddiwyd gan y cyngor a thîm y prosiect wrth iddynt achub adeilad adfeiliedig a oedd ar fin cwympo.

Roedd y gwaith a wnaed gan y tîm i adfer - a thynnu sylw at - nifer o nodweddion gwreiddiol y theatr wedi cael argraff fawr arnynt ac erbyn hyn caniateir defnydd modern o'r adeilad fel swyddfeydd o'r radd flaenaf.

Caiff yr adeilad bellach ei reoli gan Tramshed Tech, busnes o Gymru, sy'n meithrin cenhedlaeth newydd o dalent drwy gynnig lleoliadau i gydweithio a thyfu busnesau.

Ariannwyd y cynllun yn rhannol gan £6.9miliwn o gyllid grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, £1.3m o gyllid grant gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chyngor Abertawe.

Yn y llun: Aelodau tîm y Palace yn derbyn gwobr CEW.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Mehefin 2025