Adeilad Theatr y Palace i ailagor ym mis Tachwedd
Yn dilyn tair blynedd o waith adfer helaeth, mae disgwyl i adeilad eiconig Theatr y Palace Abertawe, sy'n 136 o flynyddoedd oed, ailagor ar 7 Tachwedd 2024.
Mae'r tirnod yn cael ei adfywio diolch i arian gan Gyngor Abertawe a £4.9 gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r prosiect a arweinir gan y Cyngor gyda chymorth R&M Williams a GWP Architecture, yn rhan o gynllun adfywio £1bn y Cyngor i ailfywiogi ardal Y Stryd Fawr a chreu hwb ar gyfer busnesau lleol.
Y prif denant, Tramshed Tech, yw prif hwb arloesedd a rhwydwaith rhannu mannau gwaith Cymru.
Mae'r agoriad hwn yn nodi ehangiad Tramshed Tech i Abertawe, gan ychwanegu at y lleoliadau sydd eisoes ganddynt yng Nghaerdydd, Casnewydd a'r Barri lle maent yn cynnig ystod o gyfleusterau gan gynnwys mannau gwaith a rennir, swyddfeydd hyblyg, ystafelloedd cyfarfod, lle ar gyfer digwyddiadau a stiwdios podlediadau.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym wrth ein bodd bod Tramshed Tech wedi cyhoeddi dyddiad agor yn y Palace a'u bod wedi ymrwymo i gynnal yr adeilad hardd hwn rydym yn ei achub ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Bydd ein gwaith - ac arbenigedd Tramshed Tech - yn rhoi bywyd newydd i'r Palace; rwy'n edrych ymlaen at ei weld yn ailagor fel canolfan i bobl leol sy'n rhedeg busnesau yno."
Bydd Tramshed Tech yn rheoli adeilad y Palace ar ôl i'r gwaith adfer ddod i ben, gan ddod â'u harbenigedd wrth greu mannau gwaith dynamig, rhagweledol mewn adeiladau hanesyddol.