Gwaith i adfer adeilad hanesyddol Theatr y Palace wedi'i orffen
Mae gwaith i roi bywyd newydd i adeilad hanesyddol Theatr y Palace Abertawe bellach wedi'i orffen.
Mae Cyngor Abertawe yn barod o drosglwyddo'r adeilad ar Y Stryd Fawr i gwmni Tramshed Tech o Gymru a fydd yn gweithredu'r adeilad pan fydd yn ailagor ddydd Iau 7 Tachwedd.
Bydd adeilad rhestredig Gradd 2 Theatr y Palace yn cynnwys chwe llawr o fannau gwaith amlbwrpas gan gynnwys mannau gwaith a rennir, ystafelloedd cyfarfod, swyddfeydd a stiwdios podlediadau.
Mae llwyfan y theatr hanesyddol yn cael ei gadw fel lle digwyddiadau ac ardal ar gyfer rhannu mannau gwaith a chydweithio, a bydd y llawer gwaelod yn dod yn siop goffi annibynnol Tramsehed Tech sef 'Da'.
Bydd y siop goffi'n agored i'r cyhoedd.
Arweiniwyd y gwaith i adfer yr adeilad 136 o flynyddoedd oed gan Gyngor Abertawe gyda chefnogaeth cyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Cyflawnwyd y prosiect gan R&M Williams, GWP Architecture, Hydrock a TC Consult.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Er ei dreftadaeth falch, roedd adeilad Theatr y Palace wedi bod yn adfeiliedig am gyfnod rhy hir o lawer.
"Dyna pam prynwyd yr adeilad gan y Cyngor ac mae wedi bod yn brysur yn gweithio ers sawl blwyddyn i roi bywyd newydd iddo, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a llawer o gwmnïau arbenigol.
"Mae'r prosiect yn un elfen o raglen adfywio gwerth £1bn sydd ar fynd yn Abertawe. Mae'n dangos pa mor ymrwymedig ydym i drawsnewid canol y ddinas wrth ddiogelu ein treftadaeth.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym wrth ein boddau bod y gwaith adnewyddu bellach wedi'i orffen a bod dyfodol adeilad Theatr y Palace wedi'i ddiogelu.
"Mae pawb a fu'n rhan o'r gwaith sydd wedi digwydd yno'n haeddu canmoliaeth enfawr ac edrychwn ymlaen ay weld Tramshed Tech yn dod â'u harbenigedd i'r adeilad."