Toglo gwelededd dewislen symudol

Contractwyr arbenigol yn paratoi Theatr y Palace ar gyfer gwaith ailwampio

Mae arbenigwyr adeiladu'n gweithio'n galed i baratoi adeilad hanesyddol yn Abertawe ar gyfer golwg smart newydd - a bywyd newydd.

Palace Roof

Palace Roof

Maent ar y safle yn adeilad hanesyddol Theatr y Palace yng nghanol y ddinas, er mwyn ei baratoi ar gyfer gwaith ailwampio dramatig ond sensitif dros y ddwy flynedd nesaf.

Adeiladwyd yr adeiledd ym 1888 ac, yn ei hanes hir, mae'r adeilad wedi bod yn destun cyfres o waith adnewyddu mewnol sydd wedi arwain at ddrysni cymhleth gyda grisiau serth, troellog a nifer o leoedd o bob siâp a maint.

Mae'r heriau ar gyfer y rheini sydd bellach yng nghyfnodau cynnar adfer yr adeilad yn cael eu dwysáu gan gyflwr adfeiliedig yr adeiledd ar ôl bron i ddegawd o ddiffyg defnydd.

Mae Cyngor Abertawe'n trefnu dyfodol mawr ar gyfer yr adeilad chwe llawr, ar ôl ei gymryd o berchnogaeth breifat ychydig cyn y pandemig.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Roedd y Palace mewn cyflwr ofnadwy, a gallai fod yr adeilad wedi cael ei golli i Abertawe.

"Roedd wedi'i ddadfeilio ar ôl blynyddoedd o fod mewn dwylo preifat; gwnaethom ei achub wrth brynu'r adeilad ar gyfer pobl Abertawe

"Rydym yn ei drawsnewid gyda chymorth partneriaid arbenigol fel GWP Architecture a'r prif gontractwr R&M Williams Ltd."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn ymdrechu i adfer a chadw nodweddion allweddol a gwneud y Palace yn lleoliad pwysig ar gyfer gwaith parhaus gwerth £1bn i adfywio'r ddinas a chreu dyfodol cyffrous."

Meddai rheolwr contractau R&M Williams,Simeon Reed, "Oherwydd oed a chyflwr gwael y Palace, rydym yn dod ar draws nifer o heriau wrth i ni wneud cynnydd da. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd gan y ddinas adeilad a fydd yn ganolbwynt ar gyfer ardal adfywiedig."

Meddai cyfarwyddwr GWP Architecture, Richard Townend,"Rydym yn edrych ymlaen at weld crefftwyr cadwraeth arbenigol - gan gynnwys towyr, gweithwyr plwm, gweithwyr metel, seiri celfi a phlastrwyr - a defnyddio eu gwybodaeth a'u profiad i greu ac adfer agweddau allweddol ar adeilad Theatr y Palace."

Meddai Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James,"Rydym am roi bywyd newydd i ganol ein trefi ac rydw i'n falch ein bod ni wedi gallu cyfrannu at y prosiect pwysig hwn trwy ein Rhaglen Trawsnewid Trefi."

Mae'r adeilad rhestredig Gradd Dau yn cael ei drawsnewid mewn modd sensitif yn gartref ar gyfer busnesau technoleg, busnesau newydd a chreadigol, a Tramshed Tec fydd yn prydlesu'r adeilad fel y prif denant.

Dechreuodd waith ar y safle yn 2021 ac mae disgwyl i'r adeilad ailagor yn 2024. Cynorthwyir y prosiect hwn gyda chyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chan Lywodraeth Cymru, drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth: www.facebook.com/PalaceTheatreRedevelopment/.

Llun: Gwagle'r to yn adeilad Theatr y Palace Abertawe fel y mae ar hyn o bryd - gyda'r llechi wedi'u symud ac wedi'i orchuddio â chynfas diddos.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023