Toglo gwelededd dewislen symudol

Adeilad hanesyddol Theatr y Palace yn Abertawe'n ailagor

Mae adeilad eiconig Theatr y Palace yn Abertawe wedi ailagor heddiw (dydd Iau 7 Tachwedd) fel lleoliad diweddaraf Tramshed Tech, gan nodi carreg filltir bwysig yn y gwaith gwerth £1bn i adfywio'r ddinas.

Palace Theatre Official Opening

Palace Theatre Official Opening

Adferwyd y tirnod hanesyddol - sy'n dyddio nôl i 1888 - yn helaeth dros gyfnod o dair blynedd, wedi'i arwain a'i ariannu gan Gyngor Abertawe gyda buddsoddiad gwerth £6.9m gan fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Ar ôl cael ei adfer yn ofalus, mae'r adeilad chwe llawr bellach yn cynnig mannau gwaith o'r radd flaenaf a luniwyd i gefnogi busnesau technolegol, digidol a chreadigol.

Mae nodweddion pensaernïol poblogaidd wedi cael eu cadw, gan gynnwys y balconi haearn addurnol, y brics gwreiddiol o Lynebwy a'r teils llawr wedi'u hadfer.

Mae llwyfan hanesyddol y theatr wedi cael ei gadw a'i ailddychmygu fel man digwyddiadau unigryw a man cydweithredol.

Cyflawnwyd y prosiect gan R&M Williams, GWP Architecture, Hydrock (Stantec bellach) a TC Consult.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'n wych bod y rhan anhygoel hon o dreftadaeth Abertawe wedi cael ei hachub, ei hadfer a'i hadnewyddu fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ei mwynhau. Mae Theatr y Palace wedi cael ei thrawsnewid mewn modd gofalus a chelfydd, gan roi sylw i fanylion. Mae'n glod go iawn i bawb sydd wedi gweithio'n galed i gyflawni hyn.

"Gan fod lle ar gyfer 300 o bobl, rwy'n edrych ymlaen at weld pobl leol yn cynnal busnesau sy'n ymgartrefu yn adeilad Theatr y Palace. Mae gan Theatr y Palace le arbennig yng nghalonnau pobl Abertawe, ac rwy'n falch y byddant yn gallu ei mwynhau am flynyddoedd lawer i ddod.

"Cyn i'r adeilad ddod i ddwylo'r Cyngor oddeutu pum mlynedd yn ôl, roedd mewn cyflwr ofnadwy o wael ac roedd mewn perygl o gael ei golli am byth.

"Rwy'n diolch i swyddogion y Cyngor, ein contractwyr a'n partneriaid a'r holl dimau sydd wedi llwyddo i adfywio'r adeilad unigryw ac anhygoel hwn."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Fel rhan o waith parhaus gwerth £1bn y Cyngor i adfywio'r ddinas, bydd adeilad Theatr y Palace ar ei newydd wedd yn sbarduno gwelliannau eraill yn ardal y Stryd Fawr - lle buddsoddwyd degau ar filiynau o bunnoedd eisoes.

"Bydd hefyd yn rhoi hwb sylweddol i bob rhan o ganol y ddinas, sydd eisoes yn elwa o'r cynlluniau mawr eraill a roddwyd ar waith yn llwyddiannus, megis Arena Abertawe a Neuadd Albert. 

"Mae rhagor i ddod hefyd, gan fod prosiectau fel 71/72 Ffordd y Brenin, Y Storfa a'r adeilad bioffilig wedi hen ddechrau."

Meddai Jayne Bryant, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, "Mae'r wych gweld sut mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi wedi cefnogi'r gwaith i adfer yr adeilad eiconig hwn yng nghanol y ddinas.

"Mae ailddatblygu adeilad hanesyddol Theatr y Palace yn hollbwysig wrth adfywio Stryd Fawr Abertawe a bydd yn helpu i annog twf economaidd a chyfleoedd i fusnesau bach. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd busnesau a'r gymuned leol fel ei gilydd yn elwa o'r prosiect hwn."

Meddai Louise Harris, Prif Swyddog Gweithredol Tramshed Tech, "Heddiw yw dechrau pennod newydd gyffrous ar gyfer cymuned fusnes Abertawe a'r tirnod hynod boblogaidd hwn. 

"Mae'r trawsnewidiad anhygoel hwn wedi bod yn ymdrech ar y cyd ac mae wedi creu man lle hanes yn cyfuno ag arloesedd - lle gall entrepreneuriaid lleol gydweithredu, tyfu a llywio dyfodol busnes yn Abertawe.  

"Wrth adfywio Theatr y Palace, rydym wedi dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd, gan gadw treftadaeth Gymreig a meithrin entrepreneuriaeth dan arweiniad arloesedd."

Mae'r hwb busnes newydd yn cynnig mannau cydweithio hyblyg, swyddfeydd preifat, gwasanaethau swyddfa rhithwir, ystafelloedd cyfarfod o'r radd flaenaf, mannau ar gyfer digwyddiadau, a 'Da' - siop goffi annibynnol newydd sydd ar agor i'r cyhoedd. Mae gan yr holl fannau gysylltedd tra chyflym ac amwynderau o'r radd flaenaf a luniwyd ar gyfer busnesau modern.

I ddathlu agor yr adeilad, mae Tramshed Tech yn cynnig amrywiaeth o gymhellion lansio, gan gynnwys gostyngiad gwerth 50% oddi ar bob archeb drwy'r côd SWANSEA50, aelodaethau cydweithio rhan-amser o £99/mis, a lle swyddfa am ddim am ddeufis pan fyddwch yn llofnodi contract am 12 mis. Bydd cynnig i ostwng pris archeb nesaf cwsmeriaid 25% ar gael drwy gydol mis Rhagfyr hefyd.

Mae cefnogi ecosystem arloesi Abertawe'n ymwneud â mwy na mannau gwaith. Dyna'r rheswm pam mae Tramshed Tech yn darparu cymorth cynhwysfawr i fusnesau drwy raglenni arloesi'r cwmni, sydd â'r nod o feithrin busnesau newydd o fathu syniad i'r cam cynyddu graddfa. Mae'r pynciau'n cynnwys a yw cynnyrch yn bodloni galw yn y farchnad, parodrwydd i ddenu buddsoddwyr, eiddo deallusol a chreu ystafell ddata, ochr yn ochr â chefnogi cymheiriaid, cyfleoedd mentora a rhwydweithio, gan wneud Theatr y Palace yn hwb go iawn ar gyfer twf busnesau ac arloesedd yn Abertawe.

Cynhelir y digwyddiad cyntaf, 'From Swansea Start-up to Amazon Aquisition: The Veeqo Journey' gyda Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Veeqo, Matt Warren, yfory, sef 8 Tachwedd, gan arddangos y potensial ar gyfer twf busnesau technolegol yn Abertawe.

I gael rhagor o wybodaeth am Tramshed Tech yn Abertawe a digwyddiadau sydd ar ddod, ewch i www.tramshedtech.co.uk/locations/palace-theatre 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Tachwedd 2024