Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa'n buddsoddi £27m mewn prosiectau i helpu Abertawe i adfer o effaith economaidd y pandemig

Mae bron £27m wedi'i fuddsoddi mewn prosiectau i helpu Abertawe i adfer o effaith economaidd y pandemig.

swansea from the air1

swansea from the air1

Mae prosiectau sy'n rhan o gronfa adferiad economaidd Cyngor Abertawe yn cynnwys grantiau i helpu busnesau lleol wella golwg eu heiddo, canolfan cyngor ar ynni dros dro sy'n rhoi awgrymiadau i breswylwyr lleol, a gwella llawer o ardaloedd chwarae ar draws y ddinas.

Mae prosiect hyfforddiant a lleoliad gwaith â thâl hefyd wedi'i gyflwyno yn y cyngor, ynghyd ag adnodd i ddarparu cyngor ac arweiniad uniongyrchol ar fudd-daliadau lles i breswylwyr.

Mae'r gronfa adferiad economaidd wedi buddsoddi mewn 120 o brosiectau i gyd ers haf 2021.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Fel pob tref a dinas ledled y DU, teimlodd Abertawe effaith y pandemig, a dyna pam y sefydlwyd y gronfa i helpu cymunedau i adfer.

"Mae prosiectau sy'n rhan o'r gronfa wedi canolbwyntio ar ddarparu cymorth lle mae ei angen fwyaf - boed hynny'n ardaloedd chwarae gwell i deuluoedd lleol, yn gymorth i fusnesau a chlybiau chwaraeon lleol, yn fentrau i helpu pobl arbed arian, neu'n rhagor o adnoddau i sicrhau bod cynifer o breswylwyr â phosib yn hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

"Bydd miloedd lawer o bobl leol yn elwa o'r prosiectau hyn am flynyddoedd i ddod, er bod y gronfa adferiad economaidd wedi'i gau dros dro i geisiadau newydd wrth i ni ddargyfeirio'n hadnoddau i wasanaethau hanfodol. Mae hyn oherwydd yr hinsawdd ariannol a'r cymorth y byddwn yn ei ddarparu i breswylwyr drwy gydol yr argyfwng costau byw."

Mae prosiectau eraill sy'n rhan o'r gronfa adferiad economaidd yn cynnwys cyflwyno'r fenter teithio ar fysus am ddim, buddsoddiad ychwanegol mewn cynnal a chadw ac atgyweirio ffyrdd a hepgor ffïoedd llogi caeau ar gyfer clybiau chwaraeon Abertawe.

Mae promenâd Bae Abertawe ar fin cael ei oleuo hefyd yn ystod y nosweithiau o'r Mwmbwls yr holl ffordd i gae chwaraeon San Helen, diolch i fuddsoddiad gan y gronfa.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Rhagfyr 2022