Toglo gwelededd dewislen symudol

Beauty and the Beast wedi torri record y Swyddfa Docynnau

Mae Theatr y Grand Abertawe wedi clywed sgrechfeydd, bŵs, chwerthiniadau, clapiau ac ambell ochenaid dros 33,000 o ymwelwyr a ddaeth drwy ei drysau yn ystod y mis diwethaf.

Beauty & the Beast, Grand Theatre

Beauty & the Beast, Grand Theatre

Mae pantomeim eleni, Beauty and the Beast, wedi rhagori ar y disgwyliadau; mae gwerthiannau tocynnau wedi torri pob record blaenorol a daeth llawer o gwsmeriaid yn ôl am yr eildro.

Mae'r theatr yn gwybod ei bod yn cyflwyno panto rhagorol, ond yr hyn a oedd yn amlwg eleni yw'r nifer eithriadol o sylwadau gwych gan feirniaid uchel eu parch, y gynulleidfa, a dyma ychydig yn unig o'r adborth gwych y cafodd:

  • "Ymwelon ni ar yr 2il gyda'n plentyn 3 oed. Hon oedd y sioe orau rydym wedi'i gweld hyd yn hyn! Fe ddwlon ni ar bob eiliad."
  • "Daeth 6 o'm teulu, o 5 oed i 70 oed i'w weld ddydd Llun yma. Gwych!!! Roedd pob un ohonon ni wedi dwlu arno."
  • "Daeth fy mab a finne ddoe a rhaid dweud ei fod e'n anhygoel..."
  • "Es i i weld e' gyda fy ŵyr neithiwr, rhagorol!"
  • "Es i i weld y pantomeim yn y theatr fel grŵp o 11, rhwng 3 a 60 oed. Roedd Beauty and the Beast yn wirioneddol wych... Am gast rhagorol - fe ddylech chi i gyd fod yn falch iawn o'r sioe."

Mae'r pantomeim bob amser wedi bod yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd Abertawe ac mae'r Grand gyfystyr â'r cynnig tymhorol hanfodol hwn. Dros y blynyddoedd mae sawl person enwog wedi troedio'r llwyfan fel Ryan Davies, Wayne Fontana, John Challis, Lisa Riley, Jimmy Osmond a Gillian Tayleforth, ac eleni yr actor sionc, Joe McFadden oedd prif seren y cast.

Meddai rheolwr Theatr y Grand, Grant McFarlane, "Mae hwn wedi bod yn ganlyniad gwych i'r theatr. Mae'r Swyddfa Docynnau wedi torri pob record blaenorol ac mae'r gwerthiannau o flaen llaw ar gyfer ein panto nesaf, Cinderella, wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Yr hyn sy'n nodedig eleni yw bod yr adborth rydym wedi'i dderbyn wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol ac rydym wedi gweld niferoedd mawr o gwsmeriaid yn dychwelyd i wylio'r sioe ddwywaith neu fwy! Mae'n wirioneddol galonogol bod poblogrwydd y pantomeim yn dal i dyfu."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae Beauty and the Beast, gyda'i gast rhagorol, ei dîm theatr arbennig a'i gynulleidfaoedd gwych yn dangos bod y theatr yn ffynnu yn Abertawe. Mae gan y ddinas amrywiaeth eang o brofiadau diwylliannol ac mae Theatr y Grand yn parhau i fod yn rhan allweddol o hynny."

Mae'r theatr yn paratoi'n barod ar gyfer y panto nesaf, Cinderella, a fydd yn un gwych arall gyda set ddigidol ddisglair a'r holl ddoniolwch y mae cynulleidfaoedd wedi dod i'w ddisgwyl. Dydy e' byth yn rhy gynnar i archebu tocynnau ar gyfer y panto ac mae gwerthiannau o flaen llaw yn edrych yn dda. Ewch i grandabertawe.co.uk a daw eich holl ddymuniadau'n wir.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023