Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae'r cyfnod cyn y Nadolig yn Abertawe wedi dechrau wrth i ddyddiad gael ei gadarnhau ar gyfer Gorymdaith y Nadolig 2022

Bydd Siôn Corn yn dychwelyd i Abertawe unwaith eto eleni ar gyfer ei orymdaith draddodiadol sy'n nodi dechrau cyfnod yr ŵyl.

Xmas Parade 2021

Xmas Parade 2021

Cynhelir yr orymdaith yng nghanol y ddinas, a drefnir gan Gyngor Abertawe, nos Sul 20 Tachwedd - 5 wythnos yn union cyn y diwrnod mawr. Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Victoria Road am oddeutu 5pm, cyn iddi deithio drwy ganol y ddinas i Ffordd y Brenin.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Mae'r Nadolig yn un o gyfnodau pwysicaf y flwyddyn ar gyfer canol y ddinas ac mae Gorymdaith y Nadolig ynghyd ag ymweliad Siôn Corn a chynnau goleuadau'r Nadolig yn codi'r llen ar gyfer hwyl yr ŵyl ac yn codi hwyliau pobl.

"Rydym yn bwriadu creu awyrgylch carnifal go iawn sy'n llawn goleuni, cerddoriaeth a dawnsio, gyda pherfformwyr proffesiynol, grwpiau cymunedol lleol a hoff gymeriadau pawb o straeon tylwyth teg a ffilmiau."

Yn ôl oherwydd galw mawr mae Spark!,sioe theatr stryd sy'n cyfuno perfformiad drymio effaith uchel â dyluniad goleuo caleidosgopaidd. Bydd ceirw enfawr wedi'u goleuo a fydd yn ymddangos fel pe baent yn arnofio yn yr awyr ac adar enfawr hudol Gwledd y Gaeaf, y mae eu hwyliau'n newid gyda'r goleuadau a'r gerddoriaeth. 

Byddant yn ymuno â channoedd o bobl o gymunedau Abertawe a fydd yn ymuno yn hwyl yr ŵyl ac yn ei rhannu â'r miloedd o wylwyr y disgwylir iddynt fod yno.

Meddai'r Cyng. Francis-Davies, "Llai na mis sydd i fynd nes Gorymdaith y Nadolig ac mae rhagor o gyhoeddiadau arbennig i ddod cyn y diwrnod mawr."

Nathaniel Cars, un o werthwyr ceir mwyaf de Cymru, yw un o gefnogwyr masnachol Gorymdaith y Nadolig Abertawe ac mae'n darparu cerbydau ar gyfer y fflotiau. Meddai Nathan Griffiths, Rheolwr y Grŵp, "Mae'n anrhydedd i ni fod yn rhan o ddathliadau Nadolig eleni gan fod Abertawe bob amser wedi bod yn lle arbennig i ni ac mae gennym gwsmeriaid ffyddlon iawn yn Abertawe a'r cyffiniau."

Cynhelir Gorymdaith y Nadolig Abertawe 2022 o 5pm ar 20 Tachwedd. Bydd y llwybr yn dechrau ar Victoria Road cyn mynd tuag at Princess Way, Caer Street, Castle Street a'r Stryd Fawr, yna Alexandra Road, cyn mynd ar hyd Orchard Street ac ar hyd Ffordd y Brenin.

Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein i https://www.croesobaeabertawe.com/joio/.

 

 

 

Close Dewis iaith