Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Yn dod yn fuan: Gwelliannau i ardal boblogaidd ym Mharc Singleton

Bydd mwy fyth gan ymwelwyr ag ardal boblogaidd ym Mharc Singleton i'w fwynhau yr haf hwn.

Pedalo at Singleton Park

Pedalo at Singleton Park

Mae'r Cyngor yn bwriadu gwella'r llyn cychod a chyflwyno ystod o welliannau eraill. 
Disgwylir i waith ddechrau'r mis hwn a fydd yn cymryd sawl wythnos, ond bydd yr ardal yn aros ar agor i bawb yn ystod y cyfnod hwn.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae preswylwyr ac ymwelwyr yn dwlu ar ein parciau - ac mae'r llyn cychod yn ffefryn mawr.
"Rydym wedi gwella'r cwrs golff gwallgof yno'n ddiweddar ac rydym yn bwriadu cyflwyno pedwar dinosor model enfawr ynghyd â phedalos newydd. Diweddarom yr ardal chwarae yn 2021.
"Canlyniad ein gwaith dros yr wythnosau sy'n dod fydd llyn glanach ar gyfer bywyd gwyllt a hamdden, dŵr dyfnach ar gyfer cychod a mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg." 
Bydd gwelliannau i'r llyn cychod dros yr wythnosau sy'n dod yn cynnwys cael gwared ar silt, llaid a deunyddiau eraill sydd wedi cronni yn y llyn dros amser, creu ardal addysg awyr agored a gosod tri bwrdd gwybodaeth bywyd gwyllt.
Sefydlir yr ardal ddysgu ger ardal lanio'r llyn. Bydd grwpiau'n gallu eistedd a dysgu yno.
Caiff y byrddau gwybodaeth eu gosod o gwmpas y llyn i arddangos manylion bywyd gwyllt lleol, hybu addysg ac ennyn diddordeb ymwelwyr sy'n ymddiddori mewn natur.
Daw cyllid am y gwaith newydd o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
 
Llun: Llyn Cychod Parc Singleton.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Mawrth 2025