Toglo gwelededd dewislen symudol

Penwythnos o gerddoriaeth i barhau â haf gwych o adloniant

Bydd haf anhygoel o adloniant Abertawe yn parhau gyda phenwythnos gwych o gerddoriaeth o'r radd flaenaf.

Nile Rodgers

Nile Rodgers

Bydd y sêr byd-eang, Nile Rodgers a CHIC, Anne-Marie a Paul Weller yn perfformio ym Mharc Singleton am 3 diwrnod yn olynol o ddydd Gwener 29 Gorffennaf.

Bydd Rodgers yn perfformio ddydd Gwener gyda'i ganeuon poblogaidd sy'n cynnwys Le Freak ac Everybody Dance, bydd Anne-Marie yn perfformio caneuon poblogaidd fel 2002 a Friends ddydd Sadwrn a bydd Weller yn perfformio'i ganeuon poblogaidd sy'n cynnwys That's Entertainment ac The Changing Man ddydd Sul.

Yr hyrwyddwyr, Orchard Live, sy'n cyflwyno'r penwythnos yn Abertawe, gyda chefnogaeth y cyngor sy'n gweithio gyda hyrwyddwyr i baratoi'r lleoliad.

Er mwyn hwyluso'r digwyddiad yn ddiogel bydd nifer o ffyrdd ar gau, a bydd dargyfeiriadau traffig a chyfyngiadau parcio ar waith. Maen nhw'n cynnwys: Dydd Gwener - 3pm - 11.30pm Brynmill Lane (rhwng Oystermouth Road a Gower Road); Dydd Sadwrn - fel dydd Gwener, yn ogystal â 10pm- 11.30pm Mumbles Road (rhwng Sketty Lane a Gorse Lane); Dydd Sul - yr un peth â dydd Gwener

Gwnaeth y cyngor gyfres o ymrwymiadau polisi ym mis Mehefin i ddarparu cymorth - yn y 100 diwrnod dilynol - i gymunedau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Roedd cyflwyno'r rhaglen ddigwyddiadau fwyaf erioed yn un o'r ymrwymiadau hynny.

Gallwch gael manylion ynghylch digwyddiadau Abertawe, gan gynnwys cwestiynau cyffredin am y digwyddiadau ym Mharc Singleton a sut i brynu tocynnau yma: https://www.croesobaeabertawe.com/joio/ a https://orchardlive.com/event-information/

Ffyrdd a theithio: www.bit.ly/GigRoads

Llun: Nile Rodgers

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Gorffenaf 2022