Toglo gwelededd dewislen symudol

Diweddglo perffaith i flwyddyn ysgol yn dilyn arolygiad rhagorol

Mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Parkland wedi gorffen y flwyddyn ysgol ar nodyn cadarnhaol yn dilyn cyhoeddiad adroddiad arolygu rhagorol.

Parkland Primary School Estyn Inspection

Parkland Primary School Estyn Inspection

Ymwelodd tîm o Estyn â'r ysgol yn gynharach eleni ac maent wedi nodi ei bod yn ysgol hapus a bywiog lle mae disgyblion yn ffynnu.

Yn ôl yr adroddiad, "Mae'r ysgol yn hynod gynhwysol, gan sicrhau bod pob disgybl, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn teimlo'n ddiogel, yn hapus ac yn barod i ddysgu.

"Mae hyn yn datblygu angerdd disgyblion am ddysgu a'u penderfyniad i lwyddo. O ganlyniad, mae bron pob un o'r disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu o'u mannau cychwyn unigol.

"Ar draws yr ysgol, mae ymddygiad disgyblion yn rhagorol. Maent yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol â'u cyfoedion ac oedolion fel ei gilydd ac yn dangos lefelau uchel o barch at ddiwylliannau ei gilydd."

Dywedodd arolygwyr fod arweinyddiaeth yn yr ysgol yn "rhagorol" ac yn "ganmoladwy", gyda'r pennaeth, Anne Lloyd, yn cael ei chefnogi'n fedrus gan ddau ddirprwy bennaeth hynod alluog a thîm o arweinwyr cyfnod effeithiol, gan weithio ochr yn ochr â chorff llywodraethu dynodedig.

Meddai Mrs Lloyd, "Rwy'n falch iawn o'n hysgol ac rwyf wrth fy modd bod arolygwyr wedi cydnabod holl waith caled ein staff, ein disgyblion a'u teuluoedd o ddydd i ddydd."