Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i ddweud eich dweud am ddyfodol parciau a mannau agored Abertawe

Mae Cyngor Abertawe'n gwahodd pawb yn ein cymunedau i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein newydd am barciau a mannau agored y ddinas.

Brynmill Park

Brynmill Park

Felly, os ydych yn breswylydd, yn grŵp cymunedol neu'n ymwelydd ag Abertawe, hoffem glywed eich barn a'ch syniadau er mwyn helpu i lunio dyfodol parciau a mannau agored y ddinas.

Mae'r ddinas yn gartref i lu o fannau gwyrdd hardd sy'n rhoi pleser i filoedd o bobl bob blwyddyn. Nawr, mae'r cyngor yn gweithio gyda Counterculture Partnership LLP i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth newydd a fydd yn sicrhau bod y mannau hyn yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.

Bydd y strategaeth yn archwilio amrywiaeth eang o themâu, gan gynnwys ardaloedd chwarae, adfer natur, twristiaeth, digwyddiadau cymunedol, chwaraeon, iechyd a lles. Er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn adlewyrchu anghenion ac uchelgeisiau pobl leol, mae'r cyngor yn gofyn am adborth drwy arolwg ar-lein byr.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol:

"Mae parciau a mannau agored wrth wraidd ein cymunedau - maent yn fannau lle mae pobl yn dod ynghyd i ymlacio, chwarae, gwneud ymarfer corff a chysylltu â byd natur.

"Rydym am wneud yn siŵr y bydd y mannau hyn yn parhau i ddiwallu anghenion ein preswylwyr, nawr ac yn y dyfodol. Dyna'r rheswm pam mae'n hynod bwysig bod cynifer o bobl â phosib yn dweud eu dweud. P'un a ydych yn defnyddio eich parc lleol bob dydd neu'n achlysurol, mae eich barn yn bwysig."

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Abertawe, y Cyng. Rob Stewart:

"Dyma gyfle gwych i bobl ledled Abertawe helpu i lunio gweledigaeth feiddgar a chynhwysol i'n parciau.

"Rydym yn falch o'r mannau gwyrdd sydd gennym, ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu bod nhw'n well byth - yn fwy hygyrch, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy bywiog i bawb."

Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Sul 23 Tachwedd a dylai gymryd 15 munud ar y mwyaf i'w gwblhau. Bydd yr holl ymatebion yn sicrhau bod y gymuned yn cael mewnbwn wrth ddatblygu'r strategaeth newydd, a fydd yn cyflwyno cyfres o argymhellion a blaenoriaethau i'w hystyried gan y cyngor er mwyn helpu i gynnal a chadw a gwella'r isadeiledd parciau mewn cymunedau ledled Abertawe.

Er mwyn cymryd rhan, ewch i: Dyfodol parciau Abertawe: cyfle i ddweud eich dweud - Abertawe

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin 2025-26 Llywodraeth y DU.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Tachwedd 2025