Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn barod i ehangu'r cymorth i bartneriaid hamdden y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt

​​​​​​​Mae Cyngor Abertawe yn barod i ehangu'r cymorth y mae'n ei roi yn sgîl y pandemig i sefydliadau partner allweddol sy'n helpu i ddarparu gwasanaethau hamdden i bobl ar draws yr ardal.

TheLC

Mewn cyfarfod Cabinet y cyngor a gynhelir ar 17 Tachwedd, gofynnir iddynt gytuno ar gymorth ariannol newydd ar gyfer y cyrff sy'n cynnal gweithrediadau fel yr LC, canolfannau hamdden a Phwll Cenedlaethol Cymru.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae effaith COVID-19 yn parhau; rydym am i'n partneriaethau hamdden fod yn gynaliadwy felly mae'n bwysig ein bod ni'n eu cefnogi. Byddwn yn parhau i'w cefnogi a monitro'u hadferiad."

Mae heriau parhaus sy'n arwain at refeniw is yn cynnwys newidiadau mewn arferion ymhlith y cyhoedd, gyda mwy o bobl yn gweithio gartref, costau staff cynyddol a heriau recriwtio newydd.

Yn ôl yr arweiniad a roddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r diwydiant hamdden yn ystod COVID-19, byddai cymorth ariannol gan awdurdodau lleol yn hanfodol. Mae Cyngor Abertawe'n parhau i ddilyn yr arweiniad.

Mae'r LC a'r canolfannau hamdden cymunedol yn gyfleusterau sy'n eiddo i'r cyngor a ddefnyddir gan filoedd o bobl bob wythnos. Cynhelir y cyfleusterau gan yr ymddiriedolaeth nid er elw, Freedom Leisure. Ariennir Pwll Cenedlaethol Cymru ar y cyd gan y cyngor a Phrifysgol Abertawe.

Llun: Yr LC

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Tachwedd 2022