Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion yn mwynhau mynd i ysgol gefnogol a gofalgar, dywed arolygwyr

Mae disgyblion yn mwynhau mynd i ysgol gynradd yn Abertawe lle mae'r gofal, y gefnogaeth a'r arweiniad maent yn eu derbyn yn eithriadol, canfu arolygwyr.

Penclawdd School Estyn Report

Penclawdd School Estyn Report

Mae'r rhan fwyaf, gan gynnwys y rheini ag anghenion ychwanegol a'r rheini sy'n agored i niwed, hefyd yn gwneud cynnydd da, a chynnydd sy'n aml yn well ym mhob un o'r meysydd dysgu yn Ysgol Gynradd Pen-clawdd.

Roedd arolygwyr o Estyn wedi ymweld â'r ysgol y tymor diwethaf ac maent bellach wedi cyhoeddi'u hadroddiad.

Mae'n dweud: "Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Pen-clawdd yn mwynhau mynd i'r ysgol. Maent yn awyddus i siarad ag oedolion ac maent yn siarad yn hyderus am ba mor falch ydynt o'u hysgol.

"Mae'r ysgol wir yn gwerthfawrogi barn y disgyblion. Mae lles disgyblion yn ganolog i'r ysgol ac mae'r staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod yr ysgol yn amgylchedd ystyriol a chynhwysol.

"Mae athrawon yn meddwl yn ofalus am sut mae disgyblion yn dysgu orau ac yn defnyddio ystod o ddulliau i ennyn eu diddordeb yn llwyddiannus yn eu dysgu.

"Mae'r holl staff yn datblygu eu sgiliau proffesiynol a'u gwybodaeth gyda'i gilydd yn dda.

"Mae'r gofal, y gefnogaeth a'r arweiniad a ddarperir ar draws cymuned yr ysgol yn eithriadol ac mae'n cefnogi gweledigaeth yr ysgol i "ennyn y gorau yn ei gilydd".

Dywed yr adroddiad fod y pennaeth Louisa Reynolds-Milnes yn dangos arweinyddiaeth gref a thosturiol a chyda chefnogaeth arweinwyr a llywodraethwyr yr ysgol, mae hi wedi datblygu tîm brwdfrydig o weithwyr proffesiynol a chanddynt ddealltwriaeth gref o anghenion y disgyblion a'r gymuned leol.

Meddai Mrs Reynolds-Milnes, "Rwy'n hynod falch o'n holl ddisgyblion a'r tîm rhyfeddol sy'n gweithio yma, ac rwy'n falch iawn bod yr arolygwyr wedi cydnabod popeth y maent yn ei wneud i wneud Ysgol Gynradd Pen-clawdd yn ysgol mor wych i'w harwain.

"Gwerthfawrogir y gefnogaeth rydym yn eich chael gan rieni, gan ein llywodraethwyr a'r gymuned ehangach hefyd ac rwy'n gobeithio eu bod yr un mor falch â ni â chanlyniad yr arolygiad."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023