Toglo gwelededd dewislen symudol

Amser i ddathlu wrth i gloc newydd edrych i'r dyfodol

Mae gan Abertawe gloc cyhoeddus newydd sy'n hawdd ei weld!

Penderyn Clock

Penderyn Clock

Mae'r cloc newydd - ar dŵr sy'n edrych dros hen safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa - bellach yn gweithio.

Mae'n ychwanegiad defnyddiol a deniadol newydd i dirwedd Cwm Tawe Isaf a bydd miloedd ar filoedd o bobl yn ei weld bob wythnos.

Mae'r tŵr cloc ar hen adeilad pwerdy'r gwaith copr a fydd yn safle ychwanegol ar gyfer brand diodydd o'r radd flaenaf o Gymru, Penderyn - diolch i raglen adfywio Cyngor Abertawe. 

Mae'r safle'n cael ei ailwampio gan gwmni o Abertawe, John Weaver Contractors, ar ran Cyngor Abertawe.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n hyfryd gweld cloc newydd wedi'i osod ac yn gweithio ar yr hen adeilad arbennig hwn - bydd y tŵr yn dirnod eiconig newydd ar gyfer y safle hwn."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'n wych gweld y gwaith i adfer y safle hanesyddol hwn yn arwain gwaith adfywio coridor isaf Afon Tawe."

Meddai Prif Swyddog Gweithredu Distyllfa Penderyn, Neil Quigley, "Rydym yn hynod falch o weld y tŵr cloc yn gweithio unwaith eto ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'r safle pan fydd ein drysau'n agor."

Meddai Thomas Henderson, cadeirydd grŵp gwirfoddol Cyfeillion Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, "Roedd clywed y cloc yn taro am y tro cyntaf yn foment arbennig; curiad calon sydd wedi ailddechrau'n dilyn trwmgwsg hir. Mae'n cadarnhau'r teimlad bod y ganolfan ddiwylliant byd-eang bwysig hon yn fyw unwaith eto."

Meddai'r Athro Alex Langlands, uwch-ddarlithydd hanes a threftadaeth prosiect ym Mhrifysgol Abertawe, un o bartneriaid y prosiect, "Mae'r tŵr cloc prydferth hwn a adnewyddwyd yn ddiweddar yn ein hatgoffa o'n treftadaeth ddiwydiannol falch."

Meddai Joan Tamlyn, rheolwr datblygu busnes Weavers, "Rydym yn falch o fod yn rhan o'r prosiect treftadaeth ac adfywio nodedig hwn ar gyfer Abertawe."

Mae'r gwaith yn parhau a daw'r safle'n atyniad newydd i ymwelwyr ar gyfer Penderyn y flwyddyn nesaf.

Bu'r gwaith yn bosib o ganlyniad i grant £4 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru a £500,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar safle'r gwaith copr yn haf 2020 fel rhan o raglen adfywio £1 biliwn y ddinas.

Ffoto Y cloc newydd.