Arolygwyr yn canmol ysgol hapus a chynhwysol
Mae Ysgol Gynradd Pentre'r Graig yn Nhreforys yn ysgol hapus a chynhwysol lle mae disgyblion a'u teuluoedd yn cael eu croesawu a'u dathlu, yn ôl arolygwyr.
Mae plant yn falch o'u hysgol ac yn dysgu gyda brwdfrydedd heintus, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn gwneud cynnydd da.
Ymwelodd tîm o Estyn â'r ysgol y tymor diwethaf a chyhoeddwyd eu hadroddiad yn ystod y gwyliau.
Dywedodd yr arolygwyr fod tîm arweinyddiaeth yr ysgol wedi gweithio'n llwyddiannus gyda chymuned gyfan yr ysgol i sefydlu gweledigaeth a rennir ar gyfer yr ysgol a'i disgyblion, sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd cadarnhaol a pharch.
Dywed yr adroddiad, "Mae staff yn adlewyrchu'r weledigaeth yn effeithiol drwy eu dulliau addysgu a'u rhyngweithiadau, gan ffurfio perthynas gynnes, ymddiriedus â disgyblion sydd yn eu tro yn teimlo'n ddiogel a bod eu syniadau a'u barn yn cael sylw.
"Mae staff wedi sefydlu amgylchedd dysgu pwrpasol sy'n adlewyrchu cymuned amrywiol yr ysgol ac yn hyrwyddo'i diwylliant Cymreig yn dda. Mae bron pob disgybl yn dangos brwdfrydedd dros ddysgu Cymraeg."
"Mae'r ddarpariaeth i ddisgyblion y mae'r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt yn un o gryfderau mawr yr ysgol. Mae staff yn achub ar bob cyfle i gyfoethogi'r cwricwlwm ymhellach drwy brofiadau diwylliannol a bywyd disgyblion.
Dywedodd arolygwyr fod profiadau dysgu sydd wedi'u cynllunio'n ofalus yn helpu disgyblion o bob oed i ddatblygu ymdeimlad cryf o berthyn, ac mae athrawon yn darparu cyfleoedd arloesol i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau digidol a'u sgiliau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm.
Mae'r disgyblion yn frwdfrydig iawn ac yn dangos agweddau rhagorol at ddysgu, gyda chefnogaeth ystod eang o gyfleoedd i archwilio'r byd gwaith a chodi eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd yr arolygwyr fod y Corff Llywodraethu'n cymryd rôl ragweithiol wrth gefnogi'r ysgol ac, ynghyd â'r arweinwyr, maent yn credu bod cefnogi lles staff yn hynod bwysig.
Meddai'r Pennaeth Allison Davies, "Rwy'n falch iawn bod holl waith caled ein staff, ein disgyblion a'u teuluoedd wedi cael ei gydnabod gan Estyn a bod yr arolygwyr yn cytuno bod Pentre'r Graig yn ysgol hapus a gofalgar lle'r ydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd fel bod disgyblion yn mwynhau dysgu a dod i'r ysgol."
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith, "Llongyfarchiadau mawr i bawb ym Mhentre'r Graig ar yr hyn sy'n adroddiad arolygu cadarnhaol iawn."