Cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer tlodi mislif
Gall elusennau a sefydliadau sy'n gweithio i fynd i'r afael â thlodi mislif yn Abertawe wneud cais yn awr am gyllid y cyngor.

Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn £5,000 yn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu preswylwyr y mae angen cymorth arnynt i gael gafael ar gynnyrch mislif.
Mae angen i grwpiau wneud cais erbyn dydd Gwener, 11 Mawrth a dylent e-bostio TacklingPoverty@abertawe.gov.uk am ffurflen gais ymlaen llawn.
Y llynedd cefnogwyd 18 o sefydliadau yn Abertawe, a defnyddiwyd y grantiau hyn ganddynt i helpu dros 4,000 o fenywod a merched.