Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynediad at gynhyrchion mislif am ddim mewn cymunedau

Mae cynhyrchion mislif am ddim bellach ar gael i unrhyw un sydd eu hangen mewn dros 50 o leoliadau mewn cymunedau ar draws Abertawe.

Period Poverty Products

Period Poverty Products

Gall pobl alw heibio a chymryd beth sydd ei angen arnynt gan eu bod ar gael yn hawdd ac yn ddiffwdan mewn llyfrgelloedd, elusennau, banciau bwyd, canolfannau cymunedol a lleoliadau eraill.

Gellir gweld cyfeiriadur llawn yma: https://www.abertawe.gov.uk/cynhyrchionmislifamddim

Mae'r cyllid, a roddir o ganlyniad i Grant Urddas Mislif yn y Gymuned Llywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan Gyngor Abertawe, yn sicrhau bod cynhyrchion ar gael i fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif, gan flaenoriaethu'r rheini sy'n dod o aelwydydd incwm isel.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, "Yn ystod cyfnod lle mae pobl yn cael trafferthion ariannol, os gall pobl gael mynediad at gynhyrchion mislif am ddim, mae hynny'n un pryder yn llai iddynt.

"Yn ogystal â'r lleoliadau hyn, darparwyd cyflenwad o gynhyrchion i bob ysgol yn Abertawe ar gyfer disgyblion sydd eu hangen.

"Dyma enghraifft arall o sut mae'r cyngor yma i breswylwyr y gaeaf hwn ac yn cefnogi pobl sy'n cael trafferth wrth gael mynediad at yr hanfodion sydd eu hangen arnynt."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ionawr 2025