Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith yn dechrau ar arwyneb chwaraeon pob tywydd newydd ar gyfer cymuned

Mae gwaith yn mynd rhagddo i osod cae chwarae pob tywydd newydd a gwell llifoleuadau mewn canolfan gymunedol boblogaidd yn Townhill.

Phoenix Centre new pitch

Phoenix Centre new pitch

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i fuddsoddi hyd at £300,000 yn y cyfleuster yng Nghanolfan y Ffenics.

Gosodwyd yr hen gae tua 20 mlynedd yn ôl ac roedd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth gan y gymuned gan gynnwys clybiau chwaraeon lleol a thimau ysgol, felly mae angen gosod un newydd yn awr.

Mae'r cyngor yn ariannu arwyneb newydd, ffensys newydd, rhwydi a llifoleuadau LED o'r radd flaenaf o Gronfa Adferiad Economaidd Abertawe.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth , "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dechrau gweithio ar y cyfleuster chwaraeon hwn sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan y gymuned.

"Mae gan chwaraeon fanteision iechyd corfforol, meddyliol a lles cyffredinol enfawr a dyna pam mae Cyngor Abertawe yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddarparu cyfleusterau modern a hygyrch i bawb.

"Dyma'r cae pob tywydd diweddaraf rydym wedi'i ariannu neu ddarparu cymorth tuag ato yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac maent bellach i'w cael ym Mhenyrheol, Treforys, Pentrehafod, Tre-gŵyr, Llandeilo Ferwallt, Canolfan Chwaraeon yr Elba ac yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas."

Close Dewis iaith