Ar werth: Lleoliad gwych ar lan yr afon ger canol y ddinas
Disgwylir i ddarn mawr o dir ar lan yr afon ger canol dinas Abertawe ennyn diddordeb sylweddol gan brynwyr posib.
Mae lleoliad Glanfa Pipehouse yn gartref i ddepo gwasanaethau cerbydau Cyngor Abertawe ar hyn o bryd, ac mae'r awdurdod yn bwriadu gadael y safle eleni.
Mae'r tir, rhwng pen deheuol Morfa Road ac afon Tawe, bellach yn cael ei farchnata gan werthwyr y cyngor, Knight Frank. Bydd yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio i helpu i gynnal gwasanaethau hanfodol y cyngor.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae Glanfa Pipehouse yn gyfle ailddatblygu deniadol. Mae'n addas ar gyfer ystod o ddefnyddiau ac rwy'n annog partïon â diddordeb i siarad â'n gwerthwyr."
Maint safle depo Glanfa Pipehouse yw 1.75 hectar (4.33 erw), ac mae tua chwarter milltir o Orsaf Drenau'r Stryd Fawr. Mae'r safle'n betryalog ac mae'n gymharol wastad.
Bydd yn rhaid i unrhyw ddatblygiad arfaethedig ddilyn y broses gynllunio ffurfiol.
Dylid cyflwyno cynigion ar gyfer y safle erbyn canol dydd ar 10 Gorffennaf.
Mae'r cyngor yn bwriadu gadael safle Glanfa Pipehouse eleni a symud i gyfleuster depo canolog newydd a fydd yn cael ei rannu gyda busnes Dr Organics yn ardal fenter Abertawe. Ymgynghorir ag aelodau staff y cyngor.
Yn y cyfamser, nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch depo Home Farm y cyngor. Ar hyn o bryd, nid oes gan y cyngor unrhyw gynnig i waredu nac ailddatblygu'r safle hwnnw.
Llun: Glanfa Pipehouse, Bae Abertawe a chanol y ddinas.