Toglo gwelededd dewislen symudol

Clybiau chwaraeon yn derbyn cymorth i fwynhau chwaraeon ar ôl y pandemig

​​​​​​​Bydd Cyngor Abertawe'n rhoi rhagor o gymorth i glybiau chwaraeon lleol sy'n chwarae ar feysydd sy'n eiddo i'r cyngor.

Ashleigh Road Football Pitch

Cafodd y clybiau hyn help gan y cyngor yn syth ar ôl COVID-19 gyda chymorth gwerth oddeutu £140,000 - roedd llawer ohono drwy hepgor ffïoedd llogi ar gyfer caeau glaswellt.

Nawr, gyda'r rhan fwyaf o gyfyngiadau'r pandemig wedi dod i ben ledled Cymru, mae'r cyngor yn ceisio rhoi rhagor o gymorth trwy ymestyn ei gynnig defnydd am ddim ar gyfer gweddill 2022, a chynnig cyfradd sylweddol rhatach ar ddechrau'r flwyddyn newydd.

Bydd y cynnig yn ymestyn i holl brif gaeau'r cyngor, caeau sy'n cael eu hunan-reoli a chaeau glaswellt ar safleoedd a reolir gan yr ymddiriedolaeth bartner nid er elw, Freedom Leisure.

Bydd hyn yn golygu nad oes ffïoedd llogi tan fis Ionawr 2023, hanner ffïoedd tan ddiwedd fis Mawrth 2023 ac yna dychwelyd i ffïoedd llaw. Bydd hyn yn helpu i gynnal 65 o gaeau chwaraeon y cyngor sy'n cynnal gemau pêl-droed, rygbi a chriced ar draws y ddinas.

Caiff cymorth pellach ei ailgyflwyno i glybiau chwaraeon sy'n prydlesu tir sy'n eiddo i'r cyngor.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae Abertawe'n ddinas chwaraeon ac mae ein clybiau lleol yn bwysig i'n cymunedau. Rydym am eu helpu i ffynnu wrth i ni symud oddi wrth ddwy flynedd heriol y pandemig."

MeddaiGiovanni Cambule, ysgrifennydd Cynghrair Hŷn Abertawe a noddir gan DW Harris, "Bydd ailgyflwyno ffïoedd yn raddol ar gyfer 2022-23 yn darparu cymorth ychwanegol wrth i ni wynebu'r heriau o'n blaenau."

Meddai Karen Trussler, cadeirydd Cynghrair Pêl-droed Iau Abertawe, "Bydd y penderfyniad ar ffïoedd caeau yn rhoi'r cyfle i glybiau adfer yn ariannol yn dilyn cwpl o flynyddoedd heriol."

Meddai Nic Beggs, rheolwr ardal Freedom Leisure, "Mae'n wych gweld bod y cyngor yn cydnabod yr angen i gefnogi clybiau a chwaraeon ar draws y ddinas."

Cynigwyd cymorth caeau chwaraeon Abertawe trwy  gronfa adferiad economaidd COVID-19 y cyngor.