Cymeradwyo cynllun buddsoddi yn golygu hwb ariannol gwerth £132m ar gyfer y rhanbarth
Bydd miloedd ar filoedd o breswylwyr a busnesau yn Ne-orllewin Cymru yn elwa o hwb ariannol gwerth £132m dros y tair blynedd nesaf.
Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cymeradwyo cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, gan helpu i ryddhau arian o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a oedd eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer y rhanbarth.
Mae awdurdodau lleol y rhanbarth bellach yn gweithio'n ddi-oed i ddatblygu prosiectau sy'n gysylltiedig â themâu allweddol y cyllid, sy'n cynnwys gwella cymunedau trefol a gwledig, hybu sgiliau pobl a chefnogi busnesau bach.
Mae cynlluniau grant hefyd yn cael eu datblygu i alluogi busnesau a sefydliadau eraill i elwa o'r cyllid, gyda manylion ynghylch gwneud cais yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd y cynlluniau hynny'n cael eu cwblhau.
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw prif ffynhonnell cyllid Llywodraeth y DU sy'n disodli Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop nad ydynt ar gael mwyach ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, er nad yw'n gyfan-gwbl yr un fath.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r cyllid hwn wedi'i neilltuo ar gyfer y rhanbarth ers peth amser, ond roedd angen cynllun buddsoddi rhanbarthol er mwyn ei ryddhau.
"O ystyried yr adborth gan Dde-orllewin Cymru, mae'r cynllun hwn bellach wedi'i gymeradwyo ond gofynnwn i bobl fod yn amyneddgar wrth i ni barhau i ddatblygu prosiectau a chynlluniau grant sy'n gysylltiedig â'r cyllid.
"Gwyddwn pa mor bwysig yw'r cyllid hwn ar gyfer ein busnesau a'n preswylwyr ar draws y rhanbarth, a dyna pam rydym yn gweithio'n ddi-oed i roi cynlluniau ar waith y gall preswylwyr a busnesau elwa ohonynt cyn gynted ag y byddant wedi'u cwblhau.
"Caiff cyhoeddiadau pellach eu gwneud dros yr wythnosau nesaf, cyn gynted ag y bydd y cynlluniau'n fyw."
Meddai'r Cyng. Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, "Yn dilyn cymeradwyo'r cynllun buddsoddi rhanbarthol, edrychwn ymlaen at gyflwyno'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i fusnesau a chymunedau yn Sir Gaerfyrddin er mwyn annog twf economaidd.
"Mae'r cynllun buddsoddi rhanbarthol hefyd yn ceisio adeiladu ar y potensial i wneud De-orllewin Cymru'n arweinydd y DU ar gyfer ynni adnewyddadwy, a thyfu economi ymwelwyr y rhanbarth er mwyn manteisio i'r eithaf ar ei olygfeydd a'i ddiwylliant."
Croesawodd y Cyng. Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y newyddion am gymeradwyo'r cynllun buddsoddi rhanbarthol.
Meddai, "Byddwn yn defnyddio'n cyfran ni o'r cyllid i ysgogi twf economaidd ar draws ein trefi, ein cymoedd a'n pentrefi. Bydd yr arian yn ategu gweithgarwch economaidd cryf sydd eisoes ar waith yma gyda phrosiectau cyffrous fel y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd gwerth £250m ar frig cymoedd Dulais a Chwm Afan, y Cyrchfan Wildfox gwerth £300m yng Nghwm Afan a'n cyfranogaeth yn y cais Porthladd Rhydd rhanbarthol."
Meddai'r Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro ac Aelod y Cabinet dros Leoedd, y Rhanbarth a Newid yn yr Hinsawdd, "Croesewir yr arian hwn a chaiff ei ddefnyddio i hwyluso ac ysgogi buddsoddiad economaidd pellach ar draws Sir Benfro. Rydym yn buddsoddi mewn amrywiaeth eang o brosiectau a busnesau ac yn rhan o hynny bydd buddsoddiad sylweddol i sicrhau bod Sir Benfro wrth wraidd ynni adnewyddadwy Cymru."
Cafodd y cynllun rhanbarthol ei lywio gan gynlluniau buddsoddiad lleol ym mhob ardal awdurdod lleol, yn dilyn adborth gan breswylwyr a busnesau. Mae Llywodraeth Cymru, grwpiau cynrychioli busnes a phartneriaethau strategol sy'n cynnwys sefydliadau'r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol hefyd wedi cael cyfle i leisio'u barn.
Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhan o agenda Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.