Dewch i fwynhau digwyddiad chwarae mawr am ddim i deuluoedd
Bydd Abertawe'n dathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol gyda digwyddiad i blant a phobl ifanc ei fwynhau sy'n addo bod yn well ac yn fwy nag erioed.


Bydd gweithgareddau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n cynnwys sgiliau syrcas a gemau, adeiladu ffau, paentio wynebau, cymeriadau'n cerdded o gwmpas, cerddoriaeth am ddim, celf a chrefft a chaneuon a rhigymau Cymreig.
Bydd awr dawel hefyd yn digwydd eto eleni i roi cyfle i blant a theuluoedd sy'n elwa oherwydd llai o sŵn ac ysgogiadau i gymryd rhan yn y cyfleoedd chwarae.
Cynhelir y digwyddiad hwn ddydd Mercher 2 Awst ac fe'i trefnir gan Gyngor Abertawe a'i bartneriaid chwarae.
Bydd y dathliad yn rhedeg o 11am i 2pm, gyda'r awr dawel yn dechrau cyn hynny am 10am.
Meddai Hayley Gwilliam, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Rydyn ni'n gwybod y gall gwyliau'r haf fod yn amser difyr ond drud i deuluoedd a dyna pam mae Cyngor Abertawe'n cynnal cannoedd o weithgareddau cymorthdaledig ac am ddim bob blwyddyn."