Miloedd yn dod at ei gilydd i ddathlu chwarae
Daeth miloedd o blant a'u teuluoedd at ei gilydd heddiw i ddathlu pwysigrwydd chwarae yn ystod digwyddiad am ddim enfawr yn Abertawe.
Roedd gweithgareddau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnwys sgiliau syrcas a gemau, adeiladu cuddfan, paentio wynebau, cymeriadau yn cerdded o gwmpas y lle, celf a chrefft yn ogystal â chaneuon a rhigymau yn Gymraeg.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i chwarae fel rhan hanfodol o'u datblygiad iach.
"Yn Abertawe rydym yn ceisio darparu cymaint o gyfleoedd i blant a'u teuluoedd chwarae gyda'i gilydd â phosib, a dyna'r rheswm y mae diwrnodau fel heddiw mor bwysig.
"Fel Cyngor rydym hefyd yn buddsoddi £7m mewn ardaloedd chwarae newydd neu sydd wedi'u gwella ym mhob ardal yn Abertawe ac rydym hefyd yn cefnogi teuluoedd gyda channoedd o weithgareddau am ddim a rhai â chymhorthdal yn ystod gwyliau haf yr ysgol yn ogystal â bysus am ddim yn ystod y penwythnos er mwyn eu helpu i'w cyrraedd.
"Rydym yn awyddus i glywed eich barn am chwarae yn Abertawe felly e-bostiwch ni yn chwarae@abertawe.gov.uk neu ewch i www.abertawe.gov.uk/DigonolrwyddCyfleoeddChwarae a rhowch wybod i ni am yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y mae angen ei wella."
Mae llawer o weithgareddau am ddim neu â chymhorthdal yn cael eu cynnal i deuluoedd yn Abertawe yn ystod gwyliau haf yr ysgol.
Dyma naw syniad i chi'r wythnos hon.
A chofiwch, gallwch deithio am ddim ar fysus ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun.
Mae llawer mwy o weithgareddau a digwyddiadau wedi'u rhestru ar ein gwefan yn https://www.abertawe.gov.uk/gweithgareddaugwyliau
Dydd Llun 12 Awst - Diwrnod Hwyl a Diwrnod Mabolgampau ym Mharc De la Beche yn Sgeti o 11.00am
Dydd Mawrth 13 Awst - Bownsio a Chwarae yng Nghanolfan Hamdden Cefn Hengoed, 10.30am - 12.00pm
Dydd Mercher 14 Awst - Hwyl a Ffitrwydd i Blant ym Mharc Coed Gwilym yng Nghlydach, 9.30am - 11.00am
Dydd Iau 15 Awst - Brecwast a Gemau Bwrdd yn Eglwys Sant Thomas, 9.00am - 10.00am
Dydd Gwener 16 Awst - Diwrnod Hwyl ym Mhafiliwn Parc Jersey, 12.00pm - 2.00pm.
Dydd Sadwrn 17 Awst - Jwdo yng Nghanolfan Hamdden Penyrheol, 11.00am - 12.30pm.
Dydd Sul 18 Awst - Rygbi Cyffwrdd yng Nghyfleuster Hyfforddiant Clwb Rygbi Casllwchwr yng Nghaeau Chwarae Cae Duke, 3.30pm - 5.30pm.
Os yw'r tywydd yn sych gallwch ymweld â'r ardal chwarae a ailwampiwyd yn ddiweddar ym Mharc Llewelyn Treforys.
Archwiliwch Ddyffryn Clun ar droed neu ar feic.