Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwaith i ddechrau ar gae pob tywydd ysgol

Bydd gwaith i adeiladu cae chwarae pob tywydd â llifoleuadau ym Mhontarddulais yn dechrau o fewn wythnosau.

Artificial sport pitch - generic (Canva)

Artificial sport pitch - generic (Canva)

Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cyllid diwygiedig ar gyfer y prosiect a fydd yn cynnwys cyfleuster chwaraeon sy'n cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd yn ysgol gyfun y dref.

Caiff ei defnyddio gan ddisgyblion yn ystod oriau ysgol a bydd ar gael i'r gymuned ehangach gyda'r hwyr ac ar benwythnosau.

Mae clybiau chwaraeon llawr gwlad lleol eisoes wedi mynegi diddordeb mewn defnyddio'r cae. 

Meddai Pennaeth Ysgol Gyfun Pontarddulais, Gareth Rees, "Rydym yn gyffrous iawn bod gwaith ar fin dechrau ar y datblygiad mawr ei angen hwn gan fod ein hysgol yn canolbwyntio'n gryf ar raglenni cymunedol, allgyrsiol a chwaraeon."

Mae Cyngor Abertawe'n ariannu'r cynllun gyda chyfraniadau ychwanegol gan lwfansau aelodau'r ward.

Mae'r prosiect hwn wedi'i oedi wrth i broblemau draenio gael eu datrys.

Telir costau ychwanegol gan Grant Ysgolion sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned a ariennir gan Lywodraeth Cymru a gynlluniwyd i addasu ysgolion yn ddiogel a'u hagor yn effeithiol y tu allan i oriau traddodiadol.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet y cyngor dros Addysg a Dysgu, "Bydd hyn yn rhoi hwb mawr i ysgol boblogaidd yn ogystal â chwaraeon llawr gwlad ym Mhontarddulais. Bydd hefyd yn gadael etifeddiaeth barhaus am nifer o flynyddoedd gan nad oes cyfleusterau tebyg yn y dref."