Toglo gwelededd dewislen symudol

Cae pob tywydd ysgol, gwerth £450,000 yn barod

Mae cae pob tywydd newydd â llifoleuadau a fydd yn dod â manteision enfawr i ddisgyblion a'r gymuned ehangach ym Mhontarddulais bellach wedi'i gwblhau.

Pontarddulais all-weather pitch opening

Pontarddulais all-weather pitch opening

Mae dros £450,000 wedi'i fuddsoddi mewn cyfleuster chwaraeon sy'n cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd yn ysgol gyfun y dref.

Mae'n cael ei defnyddio gan ddisgyblion yn ystod oriau ysgol a bydd ar gael i'r gymuned ehangach gyda'r hwyr ac ar benwythnosau.

Ymunodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, â chydweithwyr y Cabinet, aelodau lleol, llywodraethwyr yr ysgol, uwch-swyddogion a disgyblion ysgol ar gyfer yr agoriad swyddogol yr wythnos hon.

Dywedodd Gareth Rees, Pennaeth Ysgol Gyfun Pontarddulais wrthynt, y byddai'n trawsnewid gwersi Addysg Gorfforol gan ei fod yn addas ar gyfer pêl-droed, hoci, rownderi a llawer o chwaraeon a gweithgareddau cynhwysol eraill.

Meddai Mr Rees, "Mae ein disgyblion yn awyddus iawn i ymgymryd â gweithgareddau corfforol a chwaraeon yn ystod eu hamser egwyl a chinio ac mae'r cyfleuster hwn yn darparu arwyneb o ansawdd uchel ar gyfer chwarae.

"Rydym eisoes wedi derbyn llawer o geisiadau i brydlesu'r cyfleuster y tu allan i oriau ysgol, felly mae'r galw yn sicr yn amlwg yn y gymuned.

"Mae llifoleuadau yn golygu y gall y cyfleuster fod ar agor yn hwyr yn y nos, drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal ag ar y penwythnosau."

Mae'r cae wedi'i ariannu gan Gyngor Abertawe gyda chyfraniadau gan aelodau'r ward a Grant Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru i addasu'n ddiogel ac agor ysgolion y tu allan i oriau traddodiadol yn effeithiol.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Dysgu, "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cyflwyno'r datblygiad hwn, sy'n fawr ei angen, ar gyfer Ysgol Gyfun Pontarddulais a'r gymuned ehangach."