Gwaith yn dechrau ar bontŵn afon Tawe
Mae gwaith wedi dechrau ar osod pontŵn i gychod mewn safle adfywio allweddol yn Abertawe.
Mae contractwyr sy'n gweithio ar ran y cyngor wedi dechrau gosod yr adeiledd newydd ar lan yr afon yng Nglandŵr ar hyd afon Tawe.
Mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar lan orllewinol yr afon, tua 1.5 milltir i fyny'r afon o Forglawdd Tawe a drws nesaf i hen safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa sy'n cael ei drawsnewid fel rhan o raglen adfywio barhaus gwerth £1bn y cyngor ar gyfer y ddinas.
Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd y pontŵn, y mae ganddo ganiatâd cynllunio, ar gael at ddefnydd grwpiau sydd eisoes yn defnyddio'r afon, gan gynnwys mordeithiau Copper Jack, clwb rhwyfo Dinas Abertawe a Chlwb Rhwyfo Prifysgol Abertawe.
Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau y mis hwn. Bydd yn cynnwys rheiliau a gatiau newydd, yn ogystal â goleuadau LED sy'n effeithlon o ran ynni - y mae'r cyfan eisoes wedi'i osod.
Roedd cyllid y prosiect pontŵn yn cynnwys cymorth gan Gronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop, sy'n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru (y prif bontŵn a'r goleuadau) a chan Gynllun Seilwaith Arfordirol ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru (y gatiau a'r rheiliau dur gwrthstaen).
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Roedd afon Tawe wrth wraidd bywyd Abertawe am nifer o flynyddoedd; a bydd wrth wraidd y ddinas eto yn y dyfodol wrth i ni barhau i adfywio coridor afon Tawe er budd y bobl leol ac ymwelwyr."
Bydd y pontŵn yn sefyll ochr yn ochr â llwybr presennol ar lan yr afon a wal gei hanesyddol segur. Bydd troedle a phont droed yn cysylltu ochr y cei a'r pontŵn.
Bydd y pontŵn ac ochr y cei yn cynnwys cyfarpar diogelwch, arwyddion ac ysgolion ar y wal. Bydd bwiau achub yn cael eu gosod, yn ogystal â gatiau y gellir eu cloi ar gyfer deiliaid allweddi.
Bydd y pontŵn, a fydd wedi'i wneud o ddur a choncrit yn bennaf a chydag unedau hynofedd, yn codi ac yn disgyn yn unol â lefelau'r afon.
Mae cartref i ddyfrgwn wedi'i osod ar yr afon fel rhan o'r cynllun.
Llun: Afon Tawe. Inland and Coastal Marina Systems