Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc dros dro yn rhoi hwb i natur y ddinas

​​​​​​​Mae Abertawe'n mynd i gael parc gwyrdd newydd a fydd yn helpu i ddod â mwy o natur i ganol y ddinas.

Park Warden

Park Warden

Bydd prosiectau fel y datblygiad arfaethedig yn Sgwâr y Castell yn elwa o'r parc dros dro sy'n cael ei osod o flaen archfarchnad Iceland yn hen Ganolfan Siopa Dewi Sant.

Bydd y parc dros dro, sy'n cael ei osod gan Gyngor Abertawe fel dull arddangos, yn rhoi hwb i iechyd a lles ac yn gwella bioamrywiaeth yr ardal.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Rydym yn cynllunio nifer o ddatblygiadau mawr yng nghanol y ddinas dros y blynyddoedd nesaf - ac rydym am iddynt adlewyrchu ein nod ar gyfer dinas wyrddach a mwy bioamrywiol.

"Mae'r parc dros dro hwn yn agos at safle datblygiadau'r dyfodol fel Gogledd Abertawe Ganolog, Sgwâr y Castell a hwb gwasanaethau newydd yn hen adeilad BHS.

"Bydd yn dylanwadu arnynt ynghyd â phrosiectau allweddol eraill gan y bydd yn cael ei ddefnyddio i dreialu amrywiaeth eang o blanhigion sy'n gyfeillgar i beillwyr ac atebion ar sail natur."

Mae'r parc dros dro, sy'n cael ei osod nawr, yn cael ei ddarparu gan y cyngor mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

Bydd yn cynnwys dros 40 o blanwyr pren gydag amrywiaeth o themâu.

Bydd gan y planwyr seddau sy'n rhan ohonynt. Bydd coed a llochesi beiciau â thoeon gwyrdd, maes o law. Unwaith y bydd Gogledd Abertawe Ganolog wedi'i ddatblygu, bydd gwyrddni'r parc dros dro yn cael ei adleoli i rywle arall yn Abertawe.

Meddai Fran Rolfe, Uwch-swyddog isadeiledd gwyrdd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru,

"Gydag argyfwng natur wedi'i ddatgan yng Nghymru, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gwneud popeth y gallwn i helpu i warchod ein bioamrywiaeth, gan ei hannog i ffynnu, yn enwedig mewn ardaloedd trefol fel canol dinas Abertawe."

Meddai'r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, "Mae'r pandemig wedi rhoi gwell gwerthfawrogiad i ni i gyd o natur a'i phwysigrwydd o ran ein hiechyd a'n lles meddyliol. Mae'r parc dros dro hwn yn ffordd wych ac arloesol i bobl o bob cefndir a gallu ddysgu sut mae'r lleoedd gwyrdd hyn yn bwysig i'w cymunedau yn ogystal â natur."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Andrew Stevens, "Mae'r parc dros dro wedi'i gynllunio i ysbrydoli datblygiadau yn y dyfodol i gynnwys mwy o natur.

Llun: Y parcmon, Rachel Alderman, yn paratoi ychydig o wyrddni y bwriedir iddo ddod yn rhan o barc dros dro newydd canol y ddinas.