Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ysgol newydd sbon wedi'i chynllunio i hybu dysgu disgyblion

Mae cynlluniau'n cael eu datblygu i adeiladu ysgol gynradd newydd sbon o'r radd flaenaf i wella addysg disgyblion yn Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead.

Abc blocks - generic education pic

Abc blocks - generic education pic

Disgwylir y bydd yr ysgol yn agor ymhen chwe blynedd a bydd yn disodli'r ddwy ysgol bresennol lle mae angen gwell adeiladau a chyfleusterau.

Bydd Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead yn parhau i fod ar agor nes bod yr ysgol newydd yn barod, a rhagwelir y bydd y disgyblion presennol a rhai newydd yn parhau i gael eu haddysgu yn eu hysgolion presennol tan 2031.

Byddai'r ysgol newydd yn ddigon mawr ar gyfer holl blant y gymuned a bydd ganddi ddosbarth meithrin rhan-amser a darpariaeth Dechrau'n Deg, yn ogystal â Chyfleuster Addysgu Arbenigol ar gyfer y disgyblion hynny y mae angen cymorth ychwanegol arnynt.

Bydd hefyd ardaloedd awyr agored gwell ar gyfer chwarae, dysgu a chwaraeon.

Er mwyn dechrau'r broses, y cam cyntaf yw y byddai Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead yn cael eu cyfuno, gan ddod â'r ddau safle o dan un pennaeth a chorff llywodraethu.

Mae'n rhywbeth sydd wedi'i wneud yn llwyddiannus yn y gorffennol, cyn prosiectau buddsoddi mawr mewn ysgolion yn Abertawe.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod yr ysgol newydd yn cael ei dylunio a'i hadeiladu i gyflwyno'r manteision mwyaf i bob disgybl a staff yn yr ysgolion presennol.

Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cytuno i ymgynghori ar gyfuno'r ysgolion, a gofynnir i ddisgyblion, staff, rhieni a gofalwyr yn ogystal â'r gymuned ehangach am eu barn fel rhan o'r broses.

Yna bydd y Cabinet yn penderfynu mewn cyfarfod yn y dyfodol a ddylid bwrw ymlaen â'r cynllun i gyfuno'r ddwy ysgol, a allai ddigwydd ym mis Medi 2027.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith, "Mae angen gwell adeiladau ysgol i ddiwallu anghenion disgyblion yn Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Portmead ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a bydd ysgol newydd sbon yn cyflwyno buddion tebyg i gymunedau eraill lle rydym wedi adeiladu ysgolion newydd ynddynt.

"Gall disgyblion a'u rhieni fod yn sicr y bydd y ddau safle ysgol presennol yn aros ar agor nes bod yr ysgol newydd o'r radd flaenaf yn barod, ac ychydig iawn o newid y bydd rhieni a disgyblion yn ei weld tan hynny."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mawrth 2025