Costau tanwydd ac ynni'n parhau i fod yn bryder i breswylwyr
Prisiau tanwydd ac ynni, cyllid personol a'r effaith ar les a pherthnasoedd pobl yw'r meysydd pryder mwyaf i bobl Abertawe ynghylch effaith tlodi.
Cynhaliodd Cyngor Abertawe arolwg yn ddiweddar wrth iddo baratoi i ddiweddaru ei Strategaeth Trechu Tlodi, gan i bobl am eu barn, eu profiadau a'r camau y maent yn eu hawgrymu.
Derbyniwyd mwy na 300 o ymatebion, gan gynnwys cyfraniadau gan oddeutu 30 o sefydliadau, a bydd y rhain nawr yn cael eu defnyddio i helpu i ddatblygu ac adeiladu ar waith y cyngor a'i bartneriaid.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, "Mae'r arolwg hwn yn dystiolaeth o'r hyn y mae pobl Abertawe wir yn ei brofi yn ystod y cyfnod heriol hwn, sef yr argyfwng costau byw.
"Mae'r cyngor a'n partneriaid eisoes yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau a chefnogaeth a dargedir er mwyn helpu pobl sy'n byw mewn tlodi, o grantiau ar gyfer sefydliadau i gefnogaeth ar gyfer cyflogadwyedd i gyngor arbenigol ar bynciau fel hawliau lles."
Er bod yr arolwg wedi dod i ben erbyn hyn, mae'r cyngor yn parhau i ymgysylltu â phreswylwyr a chymunedau o ran ei ymagwedd strategol at drechu tlodi.
Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth a chefnogaeth sydd ar gael i bobl y mae tlodi yn effeithio arnynt.
E-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r Strategaeth Trechu Tlodi ddiwygiedig.