Angen arbenigwyr y sector preifat ar gyfer bwrdd arbenigol newydd
Gwahoddir ceisiadau am arbenigwyr y sector preifat mewn meysydd sy'n cynnwys trafnidiaeth, cynllunio, defnydd tir ac ynni i ymuno â bwrdd newydd.


Mae bwrdd cynghori'r sector preifat wedi'i sefydlu i ddarparu cyngor arbenigol i aelodau o'r Cydbwyllgor Corfforaethol (CJC) ar gyfer De-orllewin Cymru.
Gwahoddir ceisiadau am ymgynghorydd y sector preifat ychwanegol hefyd ar gyfer sectorau eraill, gan gynnwys y diwydiannau adeiladu, digidol, twristiaeth a chreadigol.
Ceisir profiad helaeth yn y sectorau a nodwyd, yn ogystal â sgiliau arweinyddiaeth a chyfathrebu sylweddol a'r parodrwydd i weithio mewn partneriaeth ag eraill.
Penodwyd Mark John, cyd-sefydlydd Tramshed Tech, yn gadeirydd bwrdd cynghori'r sector preifat yn ddiweddar.
Mae Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a sefydlwyd yn ffurfiol yn 2022 i gryfhau ffyniant economaidd ar draws y rhanbarth, yn cynnwys arweinwyr Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Cadeirydd Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, "Mae'r Cydbwyllgor Corfforedig yn edrych ar amrywiaeth o feysydd fel trafnidiaeth, datblygiad economaidd, ynni a defnydd tir i sicrhau ymagwedd fwy cydlynus at helpu De-orllewin Cymru i wireddu ei botensial enfawr yn y blynyddoedd i ddod.
"Mae llawer iawn o arbenigedd y sector preifat yn y meysydd hyn a llawer o rai eraill ar draws y rhanbarth, felly rydym yn annog arbenigwyr yn y sectorau rydym wedi'u nodi i wneud cais i ddod yn aelod o'r bwrdd cynghori.
"Byddant yn allweddol i roi arweiniad arbenigol i aelodau'r Cydbwyllgor Corfforedig wrth i'r sectorau cyhoeddus a phreifat barhau i weithio mor agos â phosib â'i gilydd er budd preswylwyr a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe."
Mae ceisiadau ar gyfer y rolau bellach ar agor yn http://www.cjcsouthwest.wales/37170 tan hanner nos, nos Sul 10 Awst.
Gofynnir i arbenigwyr y sector preifat sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy e-bostio naill ai Jonathan Burnes ar jburnes@carmarthenshire.gov.uk neu Kristy Tillman yn kristy.tillman@abertawe.gov.uk