Abertawe ymysg y lleoedd gorau yn y DU i fuddsoddi mewn eiddo
Enwyd Abertawe ymysg y lleoedd gorau yn y DU i fuddsoddi mewn eiddo eleni.


Mae'r ddinas yn y trydydd safle ar restr The Sunday Times o'r 20 lle gorau sydd ar i fyny yn 2025, diolch i gyfuniad o gynlluniau adfywio mawr, diwylliant cryf a chymunedau gweithgar.
Mae The Sunday Times yn tynnu sylw at gynlluniau adfywio fel Arena Swansea Building Society, a gafodd ei datblygu gan Gyngor Abertawe a'i hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Yn ôl The Sunday Times, mae'r arena wedi rhoi hwb ychwanegol i statws diwylliannol dinas sydd eisoes yn cynnwys Theatr y Grand a Neuadd Brangwyn, ynghyd ag arlwy theatr, y celfyddydau a cherddoriaeth egnïol ar lawr gwlad.
Mae'r papur yn ychwanegu bod yr arena wedi bod yn rhan fawr o'r ymdrechion i fanteisio i'r eithaf ar lannau Abertawe, lle gall pobl gerdded, loncian neu feicio'r holl ffordd o'r Ardal Forol i'r Mwmbwls heb groesi ffordd.
Mae'r Sunday Times hefyd yn cyfeirio at gyflwyno gardd ym Marchnad Abertawe i hybu profiad ymwelwyr.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae rhaglen adfywio gwerth mwy nag £1bn yn parhau yn Abertawe i wneud ein dinas yn un o'r lleoedd gorau ym Mhrydain o ran byw, gweithio, astudio, mwynhau, ymweld a buddsoddi, felly mae'n galonogol iawn gweld y gwaith hwn yn cael ei gydnabod gan The Sunday Times.
"Yn ogystal ag Arena Swansea Building Society a Marchnad Abertawe, mae nifer enfawr o gynlluniau eraill sydd wedi'u cwblhau neu sydd yn yr arfaeth yma i hybu ymhellach yr economi leol a chreu swyddi i bobl leol.
"Dyma dystiolaeth o'r bartneriaeth agos rhwng y cyngor, y sector preifat a sefydliadau eraill sydd wedi dod at ei gilydd ac sy'n gweithio i gyflawni'r un nodau er budd preswylwyr Abertawe, busnesau Abertawe ac ymwelwyr â'r ddinas."
Abertawe yw'r unig le yng Nghymru i gyrraedd y 15 uchaf ar restr The Sunday Times.
Mae Portsmouth, Derby a Chaer ymysg y lleoedd eraill yn y DU a restrwyd yn yr 20 uchaf.