Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb newydd i feicwyr BMX a sglefrfyrddwr Abertawe

Mae rhagor o gyfleusterau newydd a gwell ar eu ffordd i Abertawe a fydd yn hwb pellach i sglefrfyrddwyr, beicwyr BMX a selogion chwaraeon olwynog eraill lleol.

Swansea skateboarders

Swansea skateboarders

Mae Cyngor Abertawe yn chwilio am gwmni yn awr i ailwampio trac pwmpio presennol Dyffryn Clun ac adeiladu trac pwmpio newydd i feicwyr BMX newydd ac iau ym Melin Mynach yng Ngorseinon.

Bydd y Cyngor hefyd yn hysbysebu cyn bo hir am gwmni i adeiladu parc sglefrio newydd yng Nghoed Bach, Pontarddulais a gwneud gwelliannau i'r parc sglefrio presennol ym Melin Mynach.

Mae'n rhan o ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi £2.6m mewn safleoedd parciau sglefrio mewn cymdogaethau drwy weithio mewn partneriaeth agos â chymunedau lleol a chwmni dylunio arbenigol o'r enw Curve Studio. Mae buddsoddiad allanol ychwanegol wedi'i sicrhau hefyd i helpu i ddarparu'r cynllun.

Mae sglefrfyrddwyr, beicwyr BMX, selogion chwaraeon olwynog eraill a chymunedau lleol wedi helpu i lunio dyluniadau cynlluniau gwella diolch i ymgynghoriad ar-lein a nifer o weithdai wyneb yn wyneb.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae sglefrfyrddio, beicio BMX a chwaraeon olwynog eraill yn boblogaidd iawn yn Abertawe, ond nid yw'r cyfleusterau sydd gennym ar hyn o bryd yn diwallu anghenion pobl.

"Dyna pam rydym yn buddsoddi £2.6m mewn cyfleusterau chwaraeon olwynog, sy'n dilyn buddsoddiad gwerth £7m mewn gwelliannau i ardaloedd chwarae ledled Abertawe.

"Mae'r cynlluniau ar gyfer Dyffryn Clun, Melin Mynach a Choed Bach ymysg llawer sydd yn yr arfaeth ledled Abertawe, a chaiff safleoedd a chynlluniau eraill eu cyhoeddi maes o law.

"Mae'n rhan o fuddsoddiad ar draws y ddinas a fydd yn sicrhau nad oes yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl deithio mwy na dwy filltir i gyrraedd cyfleuster sglefrfyrddio neu chwaraeon olwynog wedi'i ailddatblygu yn Abertawe."

Mae safleoedd eraill a fydd yn elwa o welliannau i'w parciau sglefrio'n cynnwys Mynydd Newydd ym Mhen-lan, Parc Victoria a Chanolfan y Ffenics yn Townhill.

Cyhoeddir manylion ynghylch pryd y bydd gwaith yn dechrau ar y safleoedd hynny cyn gynted ag y cânt eu cadarnhau, yn ogystal â lleoliadau parciau sglefrio mewn cymdogaethau eraill yn Abertawe a fydd yn elwa o gyfleusterau newydd neu well.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Chwefror 2025