Toglo gwelededd dewislen symudol

Y ddinas yn parhau i chwifio'r faner ar gyfer diogelwch gyda'r hwyr

Mae bywyd nos Abertawe'n parhau i chwifio'r faner borffor dros y ddinas am yr wythfed flwyddyn yn olynol.

Wind Street By Night

Wind Street By Night

Mae ein dinas yn un o ddau le yn unig yng Nghymru sy'n gallu chwifio'r faner, sy'n tynnu sylw at sut gall ymwelwyr ddisgwyl noson mas ddifyr, amrywiol, diogel a phleserus.

Mae partneriaeth o sefydliadau wedi cadw statws y Faner Borffor drwy 2022. Roedd y cais llwyddiannus yn tynnu sylw at amrywiaeth eang o resymau pam mai canol y ddinas yw'r lle i fod yn awr ac yn y dyfodol.

Fel menter genedlaethol sy'n cael ei rhedeg gan y Gymdeithas Rheoli Canol Trefi a Dinasoedd (ATCM), mae statws y Faner Borffor yn gwobrwyo canol dinasoedd bywiog, amrywiol a diogel.

Roedd y cais  newydd  am achrediad yn tynnu sylw at straeon llwyddiant fel y gwaith adfywio ar Wind Street, busnesau newydd yn agor, ymgyrchoedd diogelwch a'r ymgyrch 'Joio Bae Abertawe - ond byddwch yn gyfrifol', i atgyfnerthu mesurau diogelwch COVID allweddol.

Mae disgwyl i brosiectau sydd ar ddod a fydd yn cryfhau statws y Faner Borffor gynnwys rhagor o waith adfywio, gan gynnwys agor Arena Abertawe ac ehangu'r gwasanaeth ceidwaid canol y ddinas i economi'r hwyr a'r nos.

Mae partneriaid sy'n rhan o waith rheoli economi'r hwyr a'r nos Abertawe'n cynnwys Cyngor Abertawe, BID Abertawe (Rhanbarth Gwella Busnes), Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Bugeiliaid Stryd Abertawe, Ambiwlans Sant Ioan, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, nifer o fusnesau eraill yng nghanol y ddinas a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies,"Rydym yn hapus iawn ein bod yn cadw statws y Faner Borffor. Mae'r bartneriaeth wedi gweithio'n galed i gadw pobl yn ddiogel drwy gydol y pandemig - a bydd yn parhau i wneud hynny."

Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID Abertawe (Rhanbarth Gwella Busnes), "Mae'r Faner Borffor yn farc o'r gwaith caled mae ein busnesau lletygarwch a chyda'r hwyr yng nghanol y ddinas yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael noson mas y gallant ei mwynhau'n ddiogel; rydym yn falch iawn i chwarae ein rhan yn hwn fel BID Abertawe."

Meddai llefarydd ar ran ATCM: "Mae'r Faner Borffor wedi bod yn bwysig i nifer o'n trefi a'n dinasoedd a oedd wedi cynnal yr achrediad drwy'r cyfnod clo, yn ogystal â bod yn allweddol wrth roi'r polisïau a'r strategaethau ailagor ar waith gyda rhanddeiliaid allweddol, wrth i'n trefi a'n canol dinasoedd addasu i ffordd newydd o fyw gyda'r pandemig."

Llun: Wind Street, Abertawe gyda'r hwyr.

 

 

 

 

Close Dewis iaith