Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Gwŷr Meirch Cymreig i arfer eu hawl i orymdeithio yn Abertawe.

Bydd milwyr o Warchodlu Marchfilwyr Cyntaf y Frenhines (QDG), 'Y Gwŷr Meirch Cymreig' yn arfer eu hawl i orymdeithio drwy ganol y ddinas ddydd Gwener.

Welsh cavalry in Mali

Dyma'r tro cyntaf mewn wyth mlynedd i'r Gwŷr Meirch Cymreig, y mae ganddynt Ryddid y Ddinas, arfer eu hawl i orymdeithio yn Abertawe ac mae'n dilyn tymor dyletswydd ar weithrediadau cadw'r heddwch y Cenhedloedd Unedig yn Mali, gorllewin Affrica.

Ar ôl arolygiad ffurfiol ar Rotwnda Neuadd y Ddinas, bydd y sgwadron yn gorymdeithio drwy'r ddinas ar hyd St Helen's Road, Ffordd y Gorllewin, Stryd Rhydychen, Princess Way a Ffordd y Brenin cyn dychwelyd i Neuadd y Ddinas drwy St Helen's Road, rhan ddeheuol Guildhall Road a Francis Street.

Meddai Mike Day, Arglwydd Faer Abertawe, "Byddwn yn annog pobl Abertawe i sefyll mewn rhes ar hyd llwybr yr orymdaith ddydd Gwener. Bydd yn achlysur gwych a lliwgar nad yw'n digwydd yn aml iawn.

"Daw rhai o'r milwyr o ardal de-orllewin Cymru ac mae hyn yn gyfle gwych i deuluoedd, ffrindiau a'r cyhoedd cyffredinol ddangos cymaint rydym yn eu gwerthfawrogi nhw a'u gwaith cadw'r heddwch yn Mali."

Bydd St Helen's Road, Stryd Rhydychen, Princess Way a Ffordd y Brenin yn cael eu cau yn eu tro ar gyfer gorymdaith  Gwarchodlu Marchfilwyr Cyntaf y Frenhines ddydd Gwener. Disgwylir i'r ffyrdd hyn gau yn eu tro rhwng 10am ac 1pm. Bydd Francis Street, rhan ogleddol Guildhall Road a Rotwnda Neuadd y Ddinas ar gau o 6am i 1.30pm.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor a fydd yn bresennol yn yr arolygiad ffurfiol ddydd Gwener, "Abertawe yw cartref ysbrydol Gwarchodlu Marchfilwyr Cyntaf y Frenhines. Dyna pam y mae ganddynt Ryddid y Ddinas a'r rheswm rydym yn hynod falch eu bod am arfer eu hawl i orymdeithio drwy Abertawe yn dilyn eu tymor dyletswydd.

"Mae mintai aml-genedlaethol o'r CU wedi bod yn Mali ers 2013, gan helpu'n llwyddiannus i gadw'r heddwch yno a meithrin perthnasoedd â phreswylwyr lleol. Mae ymfyddiniad y Gwŷr Meirch Cymreig wedi gwneud cyfraniad pwysig i ymrwymiad cenedlaethol parhaus i les pobl Mali a dylai ei filwyr fod yn falch o'u cyflawniadau."

Dywedodd hyrwyddwr lluoedd arfog y cyngor, y Cyng. Wendy Lewis, fod Gwarchodlu Marchfilwyr Cyntaf y Frenhines wedi gwasanaethu mewn sawl ardal oresgynedig o wrthdaro dros y blynyddoedd, gan gynnwys tri thymor dyletswydd llethol yn Affganistan.

Meddai, "Mae gan Abertawe hanes balch o groesawu Gwarchodlu Marchfilwyr Cyntaf y Frenhines i'n dinas. Fel cyngor a chymuned, rydym bob amser wedi bod yn ymrwymedig i gefnogi'n lluoedd arfog sy'n wynebu perygl i gadw'r gweddill ohonom yn ddiogel. Mae'r ymrwymiad hwnnw'n dod i'r amlwg yn y gefnogaeth a roddir i'n cyn-filwyr bob dydd ac rwy'n siŵr y caiff ei adlewyrchu yn ystod yr orymdaith ddydd Gwener."

Close Dewis iaith